Twristiaeth Gynaliadwy

Mewn ardaloedd gwledig, mae profiad yr ymwelydd yn gysylltiedig â phobl a lleoedd, ac felly mae ymgysylltiad grwpiau cymunedol ym mhroses cynllunio twristiaeth Bannau Brycheiniog yn bwysig.

Yn ôl ffigurau diweddar STEAM, mae twristiaeth gwerth dros £136 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn, neu £4,000 i bawb sy’n byw yn y Parc. Mae’r buddion o dwristiaeth yn cynnwys:

  • helpu i gynnal a chreu swyddi;
  • cynnal gwasanaethau a chyfleusterau lleol;
  • ysgogi mentrau a chynorthwyo buddsoddi mewn rheoli amgylcheddol.

Heb gymorth y gymuned leol, ni fydd buddion posibl o dwristiaeth yn cael eu gwireddu’n gyfan gwbl.

Mae datblygu twristiaeth gynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol yn cael ei ategu gan nifer o strategaethau ac adroddiadau allweddol, yn arbennig: