Ardaloedd Cadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Aberhonddu

Mae tref Aberhonddu yn agos i ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r dref mewn dyffryn lle mae’r Afon Wysg a’r Honddu yn dod ynghyd, ac mae wedi’i hamgylchynu’n llwyr bron gan fynyddoedd a bryniau trawiadol. Mae ei lleoliad strategol ar ddwy afon wedi bod yn bwysig i Aberhonddu drwy’r oesoedd fel man pontio a lle mae sawl llwybr yn dod ynghyd. Mae gweddillion y castell canoloesol a’r gadeirlan yn dal yn sefyll ar y cribyn amlwg i’r gogledd o le mae’r afonydd yn cyfarfod. Mae dylanwad cynllun y dref yn yr 13eg ganrif i’w gweld yng nghanol y dref o hyd, ac mae rhannau o hen waliau’r dref yn dal i sefyll mewn rhai mannau. Mae gan Aberhonddu lawer o nodweddion arbennig sy’n ffocws i’w ddynodiad fel Ardal Gadwraeth, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ei leoliad trawiadol, gyda chopâu uchel Bannau Brycheiniog yn gefndir i’r dref a’r dyffrynnoedd afonydd ffrwythlon lle saif y dref.
  • Mannau gwyrdd i’r cyhoedd, gan gynnwys ar hyd y Wysg, y Gamlas a rhodfa’r Gadeirlan.
  • Cynllun tref ganoloesol wedi’i gysylltu â nodweddion canoloesol sydd wedi goroesi megis y castell a’r gadeirlan.
  • Dros 460 Adeilad Rhestredig (saith adeilad Gradd I a 25 Gradd II*) gan gynnwys eglwysi canoloesol, castell canoloesol, rhannau o amddiffynfeydd y dref ganoloesol, tai tref mawreddog o’r 17eg a 18fed ganrif, esiamplau o resi teras arfaethedig o’r 19eg ganrif cynnar, capeli anghydffurfiol, adeiladau masnachol o’r 19eg ganrif, ac adeiladau arbenigol fel barics milwrol, Neuadd y Farchnad a hen Neuadd y Sir.
  • Mae deunyddiau adeiladu lleol nodedig megis Hen Dywodfaen Coch yn rhoi nodwedd galed, garregog i lawer o’r adeiladau, yn wahanol i arddull llyfn, clasurol adeiladau’r 18fed a 19eg ganrif y dref.
  • Dodrefn stryd a manylion deniadol gan gynnwys rheiliau a giatiau haearn, bracedi a lampau stryd, arwyddion stryd a blychau postio 19eg ganrif.

Talgarth

Yng nghysgod copa trawiadol Mynydd Troed a’r Mynyddoedd Duon mae tref farchnad fechan Talgarth. Mae gan y dref naws 19eg ganrif iddi, pan yr oedd hi ar ei hanterth, ag adeiladau cyhoeddus coeth, siopau a thai 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae gwreiddiau cynharach Talgarth fel canolbwynt amaethyddiaeth a man pontio ar draws Afon Ennig yn cael eu hadlewyrchu yn yr eglwys hanesyddol a’r ardal sy’n ei hamgylchynu, yn y clytwaith o lonydd lled-wledig, waliau cerrig, adeiladau fferm a choed aeddfed, ac yn adeiladau hŷn canol y dref sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif ac i’r canoloesoedd hyd yn oed. Mae gan Dalgarth llawer o nodweddion arbennig sy’n ffocws i’w ddynodiad fel Ardal Gadwraeth, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lleoliad hyfryd yng nghysgod llethrau gorllewinol y Mynyddoedd Duon.
  • Potensial archeolegol ar gyfer y gweddillion sydd wedi goroesi o’r canoloesoedd cynnar hyd at yr 19eg ganrif.
  • Cynllun tref cyflawn sy’n dyddio’n ôl i’r canoloesoedd pan oedd yr Eglwys a chroesfan yr afon yn ganolbwynt y dref.
  • 22 Adeilad Rhestredig, gyda 2 ohonynt â statws Gradd 2.
  • Sawl adeilad o bwysigrwydd lleol – lawer ohonynt â manylion gwreiddiol sy’n cyfrannu at y naws leol arbennig, gan gynnwys tri chapel o’r 19eg ganrif, hen orsaf drenau, blaenau siopau pren sydd wedi goroesi o’r 19eg ganrif, yr hen lys ynadon a’r hen adeiladau Ysbytai Canolbarth Cymru a’r tir gwyrdd o’i chwmpas.
  • Dulliau a deunyddiau adeiladau lleol gan gynnwys Hen Dywodfaen Coch, briciau lleol a rendrad â sail calch.