Ymgynghoriad ar Safleoedd Amgen y Cynllun Datblygu Lleol

Rhestri Safleoedd Amgen

(gweler isod)

Rhestr wedi’i diweddaru o Safleoedd Amgen (Saesneg yn unig)

Safleoedd Amgen yn ôl Ardal Gymuned

 
Y Broses Safleoedd Amgen

O ganlyniad i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi’i Adneuo, (3 Tachwedd 2010 tan 7 Ionawr 2011), derbyniodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros 200 o sylwadau ar y cynllun wedi’i adneuo, yr oedd 88 ohonynt yn awgrymiadau ynghylch safleoedd newydd neu’n ddiwygiadau i ddyraniadau’r cynllun wedi’i adneuo.

Yr enw ar y safleoedd awgrymedig a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynllun wedi’i adneuo yw “Safleoedd Amgen“.

Yn unol â rheoliadau’r CDLl, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyhoeddi Rhestr o’r holl Safleoedd Amgen a gafwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd y cyfnod ymgynghori rhwng 26 Ionawr a 6 Ebrill 2011 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, cafwyd sylwadau ynghylch y safleoedd.

Sylwch fod y safleoedd hyn wedi cael eu cyflwyno i Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn ymateb i’r CDLl wedi’i Adneuo.  NID YDYNT YN SAFLEOEDD SYDD WEDI’U CYNNIG GAN YR AWDURDOD. 

Diweddariad i’r Safleoedd Amgen

Cafodd y Rhestr Safleoedd Amgen ei diweddaru ar 10 Chwefror 2011, gyda diwygiadau i’r safleoedd canlynol:

Cod y Safle

Enw’r Safle

Anheddiad

Ardal Cyngor Cymuned / Tref

SALT 034

Tŷ Nant

Groesffordd

Llanfrynach

SALT 087

Tir wrth ymyl y prif faes parcio

Talgarth

Talgarth

SALT 089

Tir yn Little Pen y Claw

Blaengavenny

Llanfihangel Crucornau

SALT 090

Tir wrth ymyl Mount Villa

Defynnog

Maes-car

SALT 091

Caeau Penpentre

Defynnog

Maes-car

SALT 092

Tir yn Castle Farm

Pontsenni

Maes-car

 

SALT 089 Ffin goch wedi’i diwygio (14 Chwefror 2011)

SALT 010 Ffin goch wedi’i diwygio (24 Chwefror 2011)

SALT 014 Ffin goch wedi’i diwygio (24 Chwefror 2011)

SALT 041 Ffin goch wedi’i diwygio (24 Chwefror 2011)

SALT 063 Ffin goch wedi’i diwygio (24 Chwefror 2011)