Adeiladau Mewn Perygl

Beth sy’n rhoi adeilad mewn perygl?

Dros amser, mae’r hyn y mae ar bobl ei angen gan adeiladau yn newid, a rhaid i’r adeiladau addasu a newid hefyd, neu byddant yn rhoi’r gorau i fod yn ymarferol, bydd gwaith cynnal a chadw yn darfod a byddant yn dirywio. Mae llawer o’r Adeiladau Rhestredig yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’ ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn perygl gan nad oes ganddynt unrhyw swyddogaeth na defnydd economaidd ar hyn o bryd, gan fod galw cyfnewidiol yn golygu nad oes modd eu defnyddio at y diben y cawsant eu dylunio mwyach.

 

Y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn llunio, yn diweddaru ac yn cadw cofrestrau o’r Adeiladau Rhestredig yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’ yn ardal yr awdurdod lleol.  Lluniwyd y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2010, yn dilyn arolwg cynhwysfawr o’r Adeiladau Rhestredig yn y Parc Cenedlaethol.  Ar hyn o bryd, mae 132 o adeiladau neu strwythurau ar gofrestr ‘mewn perygl’ Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n gyfwerth â 6.8% o’r stoc adeiladau rhestredig yn ardal Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Hefyd, roedd yr arolwg Adeiladau mewn Perygl yn categoreiddio lefel yr atgyweiriadau a pha mor angenrheidiol oedd y gwaith sydd ei angen ym mhob un o’r adeiladau mewn perygl. Roedd hyn yn fodd i dynnu sylw at y safleoedd â blaenoriaeth a oedd angen eu hatgyweirio ar frys fel nad oeddent yn mynd â’u pen iddynt.  Mae’r gofrestr hon ar gael yn gyhoeddus ac mae’n cynnwys enwau’r holl adeiladau, gan ‘enwi a chywilyddio’ adeiladau problemus yn y Parc Cenedlaethol.

 

Mynd i’r afael ag Adeiladau mewn Perygl: Y Strategaeth Adeiladau mewn Perygl

Mae Swyddog Cadwraeth Adeiladau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymdrechu i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy ar gyfer yr Adeiladau mewn Perygl yn y Parc Cenedlaethol.  Fel arfer, y defnydd gorau ar gyfer Adeilad Rhestredig yw’r defnydd y cafodd ei adeiladau ar ei gyfer. Fodd bynnag, os nad yw hynny’n ymarferol neu’n bosibl mwyach oherwydd anghenion y gymdeithas gyfoes, rhaid ystyried newid defnydd a fyddai’n sicrhau bod gan yr adeilad ddefnydd economaidd ymarferol, gan gadw cymaint o wneuthuriad gwreiddiol, cynllun y llawr a chymaint o’r nodweddion gwreiddiol â phosibl. Mae hyn yn gam cadarnhaol ymlaen tuag at sicrhau dyfodol hirdymor yr adeilad.  Datblygwyd strategaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fynd i’r afael ag Adeiladau mewn Perygl o ganlyniadau Arolwg Adeiladau mewn Perygl 2010, ac mae wedi’i chyhoeddi.  Mae hyn yn golygu y gall darpar ddatblygwyr, entrepreneuriaid, penseiri ac, yn wir, pobl sy’n chwilio am dai, fwrw golwg dros y Gofrestr i ddod o hyd i gyfleoedd a phrosiectau newydd cyffrous.  Am ragor o wybodaeth am yr adeiladau ar y Gofrestr, cysylltwch â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladau.