Cynllun Datblygu Lleol 2025 – 2045

Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2025 – 2045

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi penderfynu ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni drafft ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gytuno.

Roedd y ddogfen ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o wyth wythnos, rhwng dydd Iau 1af o Fai a dydd Iau 26ain Fehefin 2025.

Gellir gweld y ddogfen drwy’r ddolen ganlynol:

https://bannau.oc2.uk/

Rydym wedi cyflwyno system ymgynghori newydd.

I gael mynediad i’r system, dilynwch y ddolen uchod a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost. Gofynnir i chi greu cyfrinair, a fydd yn rhoi mynediad i chi at unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno safleoedd ymgeisiol.

Rydym yn eich annog i gyflwyno eich sylwadau ar y ddogfen gan ddefnyddio’r system ymgynghori newydd. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn derbyn ymatebion yn ysgrifenedig fel a ganlyn:

E-bost
LD*@*************ov.uk

Post

Y Tîm Strategaeth a Pholisi
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas-y-Ffynnon
Ffordd y Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP