Mae’n cynnwys tri aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol a thri aelod annibynnol, wedi’u recriwtio drwy hysbyseb a chyfweliad. Mae’n cyfarfod yn ôl yr angen (ond o leiaf unwaith y flwyddyn) ac mae’n gyfrifol am y canlynol:
- Cyflawni swyddogaethau cyfreithiol a bennwyd i’r Pwyllgor gan statud neu o dan statud.
- Cynghori Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar drefniadau gweithdrefnol ar gyfer delio â chwynion a wneir i’r Ombwdsmon.
- Adolygu ymgysylltiad yr Awdurdod â chyrff allanol.
- Cynghori ar sut i sicrhau a hyrwyddo safonau ymddygiad uchel ym musnes yr Awdurdod.
- Cynghori ar y polisi chwythu’r chwiban.
- Derbyn adroddiadau gan y Swyddog Monitro.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’r cyfarfodydd hyn (yn amodol ar unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio o dan Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 – Eithriad rhag datgelu dogfennau), a gallwch wneud cais i siarad o dan y Cynllun Siarad yn Gyhoeddus
Gallwch ddilyn y ddolen hon i weld y papurau ar gyfer pob cyfarfod wedi’i restru yn erbyn y dyddiad perthnasol: Amserlen y Pwyllgorau