Gweithio fel Warden Canolfan

“Un o’r pethau gorau am fy ngwaith yw’r amrywiaeth o bethau rwy’n cael gwneud. Un funud rwy’n dysgu plant brwdfrydig am y planhigion, yr anifeiliaid a’r creigiau sy’n gwneud Bannau Brycheiniog yn lle arbennig iawn, a’r funud nesaf rwy’n helpu ymwelwyr i gael y gorau o’u hamser yma, boed yn hanner diwrnod neu’n fis neu fwy.

Mae pob un o’r staff gwybodaeth yma yn sicrhau eu bod yn adnabod y Parc yn drylwyr o un pen i’r llall, fel y gallwn roi’r wybodaeth a’r cyngor gorau posibl i ymwelwyr, ac rydym yn dysgu pethau newydd oddi wrth ein gilydd – a chan ymwelwyr – yn gyson!

Un rhan bwysig o’m swydd hefyd yw gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn rhedeg gystal ag y gallai. Ie, mae hynny’n golygu popeth, o ddadflocio’r toiledau ar brynhawn Sul prysur, i ailstocio ein siop rhoddion, ac o wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wasanaethu pan ddylid gwneud i roi halen ar y llwybr rhewllyd yn y gaeaf!

Weithiau mae’n cymryd sylw “Wow!” gan ymwelydd wrth weld yr olygfa o’n ffenestr i wneud i mi sylweddoli ein bod yn lwcus i fod yn byw a gweithio yn rhywle fel hyn, ond mae pawb ohonom yn sylweddoli hynny mewn gwirionedd (yn enwedig pan fod haenen o eira ar y Bannau, ac awyr las glir uwchben…)!

Mae’n hyfryd cael cyfarfod â phlant sydd wedi bod yma i’n gweld gyda’u hysgol – yn aml o leoedd gwahanol iawn mewn llawer ffordd i’r fan hon, ac maent wedi mynd adref wedi’u cyffroi gymaint am yr ardal hon o gefn gwlad agored a alwn yn “Barc Cenedlaethol” eu bod wedi llusgo’u rheini yn ôl yma yn ystod gwyliau’r ysgol!

Mae’n wych gwybod bod ein negeseuon am gadwraeth a chynaliadwyedd wedi dod o hyd i gartref newydd. Mae’n well fyth i glywed y rhieni’n dweud eu bod hwythau wedi mwynhau’r daith hefyd!”