Gweithio i’r Parc Cenedlaethol

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957. Caiff ei weinyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n cynnwys 16 o aelodau a benodwyd gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol ac 8 o aelodau a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â dros 100 o staff.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa lewyrchus lle mae ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn mynd law yn llaw, y Parc Cenedlaethol yw’r lle i chi.  I’r perwyl hwn, rydym wedi cyflwyno arferion cyflogi blaengar sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Defnyddiwch y ddewislen i weld mwy o wybodaeth am weithio i’r Parc Cenedlaethol.