Gŵyl Gelfyddydau Aberhonddu yn cyrraedd y dref ar gyfer hanner tymor

I’w ryddhau 20 Hydref 2011

Mae croeso i’r teulu cyfan yn Wythnos Gelfyddydau Aberhonddu – wedi ei chefnogi gan brosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a ariennir yn rhannol gan y rhaglen INTERREG IVB NEW. Mae amrywiaeth enfawr o weithdai, arddangosfeydd a hwyl drwy gydol yr wythnos, ynghanol tref Aberhonddu ac wedi’u hanelu at bob oedran.  

Mae’r gweithdai sydd ar gael yn cynnwys gwneud gwydr lliw, lluniau mosaig papur, offerynnau taro, gwneud mygydau, bywlunio, barddoniaeth a chartwnau.  Hefyd bydd llu o arddangosiadau, arddangosfeydd, a stiwdios agored i ymweld â nhw, a gallwch chi gymryd rhan mewn ffotomarathon drwy’r dref ar y dydd Sadwrn agoriadol.

Mae Artbeat Brecon yn falch o gyflwyno Theatr Bypedau Vagabondi sy’n perfformio A Pirate’s Life For Me, gweithdy gwneud pypedau gyda helfa drysor fawreddog wedi’u dilyn gan sioe bypedau am bopeth i’w wneud â môr ladron, sy’n atyniad enfawr i blant.

Ochr yn ochr â’r digwyddiadau rhyngweithiol mae masnachwyr y dref wedi ymuno i arddangos gwaith celf yn eu ffenestri fel rhan o’r ŵyl, a hefyd bydd hwyl gyda’r nos gyda dwy noson o farddoniaeth a limrigau, a noson gerddoriaeth arbennig yn nhafarn y Boar’s Head, ar Ship Street yn Aberhonddu.

Y llynedd, rhoddodd Llwybr Artbeat, sy’n bodoli ers dros 6 blynedd, y cyfle i fod yn Aelodau Cyswllt i unigolion neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn arddangos neu lwyfannu digwyddiad, gweithdy neu arddangosiad yng nghanol tref Aberhonddu yn ystod y digwyddiadau celfyddydol.

Cafodd Julia Blazer o Oh! ei chontractio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel cydlynydd yr ŵyl eleni. Mae hi’n credu bod ton o frwdfrydedd eleni er mwyn gosod sylfeini’r hyn a allai fod yn ddigwyddiad blynyddol, a hefyd mae rhai gweithdai a gafodd eu cynnal mewn ysgolion lleol, a fydd yn diweddu mewn arddangosfeydd yn ystod yr wythnos. 

Dywedodd Nick Stewart, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “Rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Artbeat a’i gefnogi er mwyn cynnal ail Ŵyl Gelfyddydau Aberhonddu. Dyma ddiben Collabor8; pobl yn gweithio gyda’i gilydd i roi profiadau gwych i ymwelwyr sy’n ffynnu. Mae Gŵyl Gelfyddydau Aberhonddu 2011 yn helpu’r rhai sy’n ymwneud â’r celfyddydau ar unrhyw ffurf gael mynediad at farchnad gynyddol yr ymwelwyr sydd eisiau cymryd rhan mewn profiadau creadigol, pleserus tra eu bod ar eu gwyliau”.

Dywedodd Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae Gŵyl Gelfyddydau Aberhonddu yn uchafbwynt partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac Artbeat Aberhonddu.  Fel rhan o’n hymgyrch i fod yn sefydliad sy’n galluogi’n fwy ac yn canolbwyntio ar y gymuned, rydym yn hynod o falch bod digwyddiad mor gyffrous yn ddeilliant yr holl waith caled hwn ac rydym yn gobeithio bod pawb yn mwynhau’r hyn sydd ar gael yn ystod yr wythnos gelfyddydol arbennig hon.”

I gael yr holl amserlenni ar gyfer y digwyddiadau a’r arddangosfeydd, codwch arweinlyfr am ddim o gwmpas y dref (neu o Oh!, 7 The Struet) neu ewch i  www.artbeatbrecon.co.uk/breconartsweek  am gopi y gellir ei lawrlwytho.  Gall unrhyw un sy’n gwneud ymholiadau am ddigwyddiadau’r ŵyl neu sydd â diddordeb mewn ymuno ag Artbeat Aberhonddu gysylltu â Chydlynydd y Digwyddiad, Julia Blazer, ar 01874 620640, sales@sooh.co.uk neu drwy alw heibio i Oh!, 7 The Struet, Aberhonddu.  I gael rhagor o wybodaeth am Collabor8 cysylltwch â Swyddog Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Nick Stewart, ar 01874 620490 neu nick.stewart@breconbeacons.org