Arolwg y Parc Cenedlaethol yn adrodd llwyddiant ‘Llwybr Celf Crughywel’

Dywedodd Nick Stewart, Swyddog Collabor8 ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bod yr adroddiad yn cadarnhau llwyddiant y digwyddiad tridiau aa gynhaliwyd ar ddiwedd mis Mai, gan amlygu Llwybr Celf Crughywel yn osodiad pwysig yng nghalendr digwyddiadau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cynhaliwyd ‘Stiwdios ac Orielau Agored’ Llwybr Celf Crughywel yn ystod Penwythnos Gŵyl Banc y Gwanwyn ym mis Mai, a oedd yn arddangos artistiaid mewn 31 lleoliad gwahanol trwy Grughywel. Roedd yn dathlu ansawdd a chrefftwriaeth eithriadol yr ardal leol, ac yn arddangos popeth o gelf i gerflunwaith i grochenwaith i wneud gemwaith, a chynnig cyfle i ymwelwyr siarad ag artistiaid a gweithwyr crefft, a phrynu pethau’n syth wrthyn nhw, sydd yn eu tro yn elwa o werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd. O’r mwy na 50 o artistiaid a chrefftwyr eclectig sydd ynghlwm â’r prosiect, ymatebodd 73% i’r arolwg, ac o’r rheiny, roedd bron 50% wedi derbyn rhwng 100 a 500 o ymwelwyr dros gyfnod y digwyddiad. Gwnaeth mwy na 70% o artistiaid werthiannau a chomisiynau rhwng £50 a £3,000, ond gyda’r gyfran fwyaf o’r artistiaid hynny yn gwneud rhwng £500 a £1,000. Adroddodd yr arolwg cynhwysfawr hefyd bod dros 80% o artistiaid yn meddwl bod y digwyddiad yn brofiad gwerth chweil a bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymryd rhan yn 2012.

Ariannwyd yr arolwg gan Brosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan raglen Interreg 4B Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Nod y prosiect hwn yw gweithio gyda busnesau lleol ar fentrau sy’n hyrwyddo’r hyn sy’n lleol, gwahanol ac arbennig am ein Parc Cenedlaethol, a helpu ymwelwyr i ddarganfod yr hyn sydd orau am yr ardal leol. Ariannodd Collabor8 raglenni digwyddiadau Llwybr Celf Crughywel hefyd, lluniau a ffilm fer i hywyddo’r digwyddiad ar YouTube a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol eraill ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Nick Stewart hefyd: “Mae’r arolwg hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd gwariant yr ymwelydd i’r economi leol ac yn cadarnhau bod Llwybr Celf Crughywel nid yn unig yn brofiad gwych i ymwelwyr, ond hefyd yn dda i fywoliaethau’r artistiaid sy’n cymryd rhan. Mae codi proffil yr artistiaid hyn yn elwa’r gymuned ac mae’r ffigurau hyn yn darparu tystiolaeth bod y mathau hyn o brosiectau yn straeon o lwyddiant gwirioneddol i Collabor8. Yn y pen draw, roedd mwyafrif yr artistiaid yn teimlo eu bod nhw wedi cael digon o fusnes i gyfiawnhau cymryd rhan yn y digwyddiad, ac mae hynny’n bwysig iawn i ni. Mae bob amser lle i wella unrhyw ddigwyddiad,  a bydd yr ymchwil yn helpu i’n gwneud ni’n ddigwyddiad mwy a gwell ar gyfer pawb sy’n ymglymedig y flwyddyn nesaf.” 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Collabor8, cysylltwch â Swyddog  Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Nick Stewart ar 01874 620490 neu nick.stewart@breconbeacons.org  

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae Prosiect COLLABOR8 yn cael ei ariannu 50% gan Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop ERDF Interreg 4B. Mae’r prosiect partneriaeth hwn yn cynnwys naw o bartneriaid gwahanol o Gymru, Iwerddon, Lloegr, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Ei nod yw cynnwys yn weithredol clystyrau o fusnesau bach mewn datblygu ansawdd, cynaliadwyedd a gwasanaethau sy’n hybu ‘synnwyr lle’ lleol. Yn y modd hwn, bydd pob clwstwr twristiaeth yn gallu elwa ar unigrywiaeth eu rhanbarthau i gystadlu’n well ym marchnadoedd yr UE a byd-eang.

Y partneriaid sy’n ymglymedig â phrosiect COLLABOR8 yw: South Kerry Development Partnership Ltd. (Iwerddon) – (Partner Arweiniol); DLG Government Service for Land and Water Management: Office of the National Project New Dutch Waterline Department (Iseldiroedd); Stichting Studio VMK (Iseldiroedd); Flemish Land Agency (Gwlad Belg); Tourism East Flanders (Gwlad Belg), Westcountry Rivers Trust (DU); South Downs National Park Authority (DU); Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (DU); a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (DU).

Os rydych chi’n newyddiadurwr sy’n ysgrifennu erthygl ac yr hoffech ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu i gael mwy o wybodaeth i’r wasg a delweddau, cysylltwch â Samantha Games, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar 01874 620 420 neu anfonwch neges e-bost at samantha.games@breconbeacons.org