Cadeirydd Blaenorol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn derbyn anrhydedd MBE

Cyhoeddwyd dyfarniad Mrs Mary Taylor ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ddydd Gwener 10 Mehefin, ac mae Aelodau o’r Awdurdod, staff a sefydliadau partner a oedd yn gweithio gyda hi, wedi ymuno i longyfarch Mrs Taylor ar y dyfarniad sy’n dathlu ei blynyddoedd niferus o wasanaeth i’r amgylchedd. Ymddeolodd Mrs Taylor o Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Hydref 2010 ar ôl wasanaethu ei thymor llawn fel Aelod – oddeutu 13 mlynedd – a hi oedd wedi gwasanaethu hiraf fel Cadeirydd yr Awdurdod, sef tua phedair blynedd wrth y llyw.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Mrs Taylor wedi rhoi o’i hamser mewn gwasanaeth eithriadol ac ymroddedig i’r sector gwirfoddol ac i’r amgylchedd yng Nghymru. Yn ystod yr 1960au, cyn iddi ddod i’r Parc Cenedlaethol, roedd yn gweithio fel byrs ac yn gwirfoddoli mewn rolau amrywiol, yn cynorthwyo mamau sengl, Grŵp Incwm Anabledd, Ymwybyddiaeth Byddardod a Hawliau Menywod. Mae’n gyn ddisgybl Ysgol Uwchradd y Merched, Y Fenni, mae’n gyn llywodraethwr Ysgol Uwchradd Crughywel, cyn aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Brycheiniog a Maesyfed ac yn gyn aelod o Glas Cymru, sef corff dielw o Dŵr Cymru. Yn ei rôl fel Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, llywiodd yr Awdurdod trwy gyfnod hynod heriol o newid ac ailstrwythuro. Yn ystod ei daliadaeth, helpodd Mrs Taylor i frwydro ymgyrchoedd yn erbyn echdynnu tywod a graean, leiniau peipiau nwy a chloddio brig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Er bod ei thymor 13 mlynedd fel aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi dod i ben, mae Mrs Taylor yn parhau i fod yn Is-gadeirydd yr Ymgyrch dros Parciau Cenedlaethol (CNP). 

Dywedodd Mrs Taylor fod ei gwaith cymunedol helaeth ac ymrwymiad amgylcheddol heb fod yn bosibl hen gymorth ei theulu a’r bobl niferus y mae hi wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn freintiedig iawn i weithio gyda rhai pobl eithriadol ac mae’r dyfarniad hwn yn ystyried yr holl aelodau a staff dawnus ac ymroddedig sy’n gweithio’n galed yn y Parc Cenedlaethol. Rwy’n ddiolchgar am anrhydedd y dyfarniad hwn ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael fy enwebu. Rwy’n colli gweithio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ond rwy’n gwybod bod fy ffrindiau, cyn aelodau a chydweithwyr mor ymrwymedig â minnau i amddiffyn ein Parciau Cenedlaethol hardd yn y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Eric Saxon, Cadeirydd presennol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwy’n falch bod Mary wedi derbyn y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu am ei chyfraniad eithriadol i’r amgylchedd. Mae ei hymroddiad, unplygrwydd ac ymrwymiad i wella wedi ffurfio nifer o newidiadau i’r Awdurdod hwn yn y blynyddoedd diwethaf ac mae hwn yn wobr am yr holl flynyddoedd hynny o wasanaeth.”

Dywedodd Mrs Julie James, Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae wedi bod yn fraint fawr gweithio gyda Mary dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae’n ymroddedig i wasanaeth cyhoeddus, yn gweithio’n galed, yn canolbwyntio ac yn dosturiol, wrth gadw synnwyr o realaeth a hiwmor bob amser. Mae’n haeddu’r anrhydedd mawr hwn am ei gwasanaeth i’r amgylchedd, ac rydym ni oll yn falch drosti.”

Dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts OBE, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:  “Mae Mary wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r rheiny sydd wedi cael y fraint o weithio gyda hi. Cymerodd ei rôl fel Cadeirydd Bannau Brycheiniog o ddifrif a rhoddodd yr Awdurdod ar sylfaen cadarn i wynebu’r dyfodol. Rwyf wedi dod i’w hadnabod yn dda iawn dros y blynyddoedd, ac wedi bod yn dyst i’w hymroddiad eithriadol i achos y Parciau Cenedlaethol yn gyffredinol a Bannau Brycheiniog yn arbennig. Mae hwn yn anrhydedd i Mary, a dylai ysbrydoli’r rheiny sy’n credu yn y Parciau Cenedlaethol i aros yn ymrwymedig i ddiogelu’r ardaloedd gwych hyn i’r cenedlaethau sy’n dilyn.”

Dywedodd Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r Awdurdod yn falch bod cyfraniad Mary i’r amgylchedd yn gyffredinol a’r Parciau Cenedlaethol, wedi cael ei gydnabod. Daeth tymor Mary fel Cadeirydd i ben y llynedd, ond o dan ei mentoriaeth ac arweinyddiaeth eithriadol, aeth yr Awdurdod hwn o nerth i nerth. Yn fy mhrofiad i weithio gyda Mary, ei gweledigaeth, ei pharodrwydd i fod yn agored i feddyliau pobl eraill, a chariad a brwdfrydedd amlwg i gofleidio pwysigrwydd y Parc Cenedlaethol sydd wedi bod yn  gonglfaen o ran cyflwyno ein gwelliannau. Rydym yn deulu Parc Cenedlaethol bach, ond mae ei ymroddiad diflino i Barciau Cenedlaethol yn golygu ei bod hi wir yn haeddu’r  wobr hon. Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, llongyfarchiadau mawr iddi.”

Bydd Mrs Taylor yn cael ei gwahodd i Balas Buckingham i gyfarfod â’r Frenhines yn y misoedd nesaf.