Wrth i’r haul dywynnu, daw pawb i’r Gelli…

I’w ryddhau 27 Mehefin 2010

Roedd y farchnad awyr agored yn llawn gweithgarwch, gyda mwy na 40 o stondinau yn cynnig popeth o’r seidrau, mêl, pasteiod, pastenni, bara, cawsiau, cacennau gorau a danteithion blasus eraill, fel cig eidion, cig oen, cig dafad a phorc lleol. Meddylir bod yr ŵyl wedi denu o leiaf 5,000 o bobl a oedd ymhyfrydu gyda’r dewis eang o fwyd a gynigwyd.

Gwnaeth Mrs Kirsty Williams AC, wrth ochr y Cynghorydd Gareth Ratcliffe a’r Cynghorydd John Morris, Aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Maer y Gelli, Mrs Mary Fellowes ac Andrew Powell, trefnydd y digwyddiad, ddatgan yr ŵyl ar agor yn swyddogol, yn erbyn cefnlen Castell y Gelli, gyda synau corau lleol yn y cefndir. Fel rhan o Raglen Datblygu Marchnata Bwyd Cymru, cynorthwywyd ac ariannwyd Gŵyl Fwyd y Gelli yn garedig gan Lywodraeth Cymru. 

Canmolodd y Cynghorydd Ratcliffe yr ŵyl gan ddweud: “Mae dathlu Pen-blwydd Gŵyl Fwyd y Gelli yn 10 oed yn rhywbeth i fod yn hynod falch ohono. Mae cymaint o wyliau fel hyn wedi cael eu rhoi naill ochr oherwydd y wasgfa credyd, felly mae pawb yma’n haeddu cymaint o glod am ei chadw i fynd trwy gyfnodau caled. Y bwyd, y corau, y gerddoriaeth – mae’n ddigwyddiad ag ysbryd cymunedol gwirioneddol ac mae pawb yma heddiw wedi cael amser hyfryd.”

Dywedodd Andrew Powell, Rheolwr Arlwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a threfnydd y digwyddiad:  “Roedd yn wych gweld y dref gyfan yw fywiog ddydd Sadwrn; roedd y Maes Parcio Coffa yn llawn gyda nifer uchaf erioed o gyflenwyd a chynhyrchwyr bwyd lleol. Mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid stondinau wedi dweud wrthyf mai eleni oedd yr ŵyl fwyd orau y maen nhw wedi’i mynychu eleni, gyda nifer o bobl yn gwario arian ar fwyd lleol. Roedd Gŵyl Celf a Chrefft dydd Sul yn brysur hefyd, ac rwy’n gobeithio y gallwn gynnig y ddau ddigwyddiad y flwyddyn nesaf ym mis Mehefin.

“Mae nifer o’r deiliaid stondinau eisoes wedi datgan y byddan nhw yn ôl y flwyddyn nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at weld nifer ohonyn nhw yn Gŵyl Fwyd Aberhonddu ddydd Sadwrn 1 Hydref.”

Mae dyddiadau eraill ar gyfer y dyddiadur yn cynnwys Ffair Haf Bannau Brycheiniog ar benwythnos Gŵyl Banc mis Awst (27 – 29 Awst) a Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog ar 1 Hydref yn Neuadd Farchnad Aberhonddu – digwyddiad sy’n rhaid i’r rheiny sy’n caru bwyd ei fynychu!