Arddangosfa ‘Mynyddoedd a Llynnoedd’ yn y Sioe Frenhinol

Mae aelodau Cangen y Bannau o fudiad Merched y Wawr wedi cynhyrchu cyfres o chwe phanel, sy’n dwyn y teitl ‘Mynyddoedd a Llynnoedd’, i ddathlu tro sir Frycheiniog fel sir nawdd y Sioe Frenhinol yn 2012. Gyda £650 o Gronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn fodd i allu creu’r paneli, gwelir y gwaith yn gyhoeddus am y tro cyntaf yr wythnos nesaf, yn Neuadd Morgannwg ar faes y Sioe yn Llanelwedd..

Gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, cnu defaid o ffermydd lleol yn ogystal â gwlân arferol, bu’r 17 aelod o Ferched y Wawr y Bannau yn ddiwyd am dros 1,000 o oriau, i allu cwblhau’r gwaith o fewn cwta ddeunaw wythnos. Mae’r paneli hyfryd hyn yn darlunio rhai o’r mannau prydferth a phoblogaidd sydd yn ardal Bannau Brycheiniog, megis Pen y Fan, Llyn y Fan Fach, Epynt, rhaeadr Sgwd yr Eira a Llyn Syfaddan/Llangors. Ar rai o’r paneli hefyd, cynhwysir darnau o farddoniaeth yn disgrifio’r ardaloedd, a gyfansoddwyd gan feirdd lleol – John M. Edwards o Aberhonddu, a’r diweddar Tom ac Aeron Davies o ardal Trecastell.

Meddai Cadeirydd Cangen y Bannau, Gwynedd Deville, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r gwaith gorffenedig. Fel grŵp rydym wedi cael cyfle i gydweithio’n glos, tra bod y Cymry ail-iaith yn ein mysg wedi cael cyfleoedd da i ymarfer yr iaith. Bu’n brofiad hapus dros ben. Heb gymorth y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, a drefnwyd gan ein trysorydd, Marian Lewis, ni fyddai’r prosiect wedi gweld golau dydd. Mae’n rhyfeddol bod grŵp o ychydig aelodau wedi gallu cyflawni hyn oll mewn byr amser.”

Ychwanegodd aelod arall, Nita Jones, “Mae wedi llenwi’n bywydau yn ddiweddar. Fe dreuliais i oriau maith arno, gan gynnwys chwilio’r Wê am wahanol dechnegau gweu, er mwyn creu amrywiaeth yn y gwead. Roedd yn waith caled, ond nawr gwych ei weld wedi’i gwblhau. Bu’r holl beth yn bosib oherwydd bod yn ein mysg aelod dalentog, sef Ros Price-Jones; hi gafodd y weledigaeth greadigol a hi sydd wedi ein tywys drwy’r prosiect.”

Meddai’r Cyng. Evan Morgan, Cadeirydd Cronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae’r prosiect hwn yn cwmpasu bopeth sy mor arbennig am dirwedd Bannau Brycheiniog, ac yn hybu treftadaeth ddiwylliannol yr ardal yn yr iaith Gymraeg. Rwy’n sicr y bydd yn un o uchafbwyntiau Sioe Frenhinol Cymru, ac edrychaf ymlaen i’w weld yno.”

Yn dilyn yr arddangosfa yn Sioe Llanelwedd, bydd y cywaith ‘Mynyddoedd a Llynnoedd’ gan Ferched y Wawr y Bannau yn cael ei arddangos mewn lleoliadau eraill yn yr ardal.

Os oes gennych chi brosiect neu ddiwyddiad a fyddai’n elwa o gymorth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cysylltwch â Helen Roderick neu Ceri Bevan ar 01874 620471 neu ewch i wefan www.breconbeacons.org am ragor o wybodaeth.

 

-DIWEDD-