Arwyddion croeso newydd wedi’u dadorchuddio yn Llan-gors

Bydd pobl leol ac ymwelwyr â Llan-gors yn sylwi ar rywbeth gwahanol os byddant yn cerdded i lawr i Gomin Llan-gors heddiw.

Nod y paneli newydd – ‘Croeso i Lyn Syfaddan a Chomin Llan-gors’ – wrth y fynedfa i Lyn Syfaddan a Chomin Llan-gors yw annog ymwelwyr i archwilio’r ardal a mynd am dro o gwmpas y llyn a’r comin i ddarganfod mwy.

Mae’r fenter yn rhan o’r Cynghreiriau Gwledig, a ariennir gan raglen Interreg 1VB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE ac a grëwyd mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, grŵp Cynghrair Wledig Darganfod Llan-gors a Bwlch ac Antomic (a gafodd y syniad am yr arwyddion) fel rhan o strategaeth leol i wella’r cyfarwyddyd a’r croeso mae ymwelwyr yn ei dderbyn.

Meddai Richard Tyler, Rheolwr Twristiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp Cynghrair Wledig Darganfod Llan-gors a Bwlch i gyflawni rhai o’r argymhellion a gyflwynwyd yn unol ag astudiaeth arwyddion a gynhyrchwyd ym mis Medi 2013. Rydyn ni’n gobeithio y bydd gwella’r arwyddion yn Llyn Syfaddan a Chomin Llan-gors yn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal ac yn eu hannog i aros yn hirach pan fyddan nhw’n sylweddoli cymaint o weithgareddau y gallan nhw gymryd rhan ynddyn nhw yn yr ardal.”

Meddai Norman Lowe, Cadeirydd grŵp Cynghrair Wledig Darganfod Llan-gors a Bwlch: “Mae’r arwyddion newydd wedi’u gwneud o dderw i sicrhau y byddan nhw’n ddeniadol ac yn addysgiadol am amser maith i ddod. Maen nhw’n pwysleisio harddwch Llyn Syfaddan a Chomin Llan-gors i bobl leol ac ymwelwyr, ac maen nhw’n gweddu i ansawdd uchel y golygfeydd a’r atyniadau yn yr ardal.”

-DIWEDD-