Y ‘Canalathon’ cyntaf yn llwyddiant ysgubol

Roedd y ‘Canalathon’ cyntaf erioed yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na 1,000 o bobl yn dod i weld eu timau’n croesi’r llinell derfyn ddydd Sul (14 Medi).

Denodd y digwyddiad 51 o dimau, a fu’n canŵio, beicio a rhedeg yr holl ffordd o Lanfihangel Pont-y-moel i’r llinell derfyn y tu allan i Theatr Brycheiniog ym masn y Gamlas. Roedd yna awyrgylch gwych wrth y llinell derfyn, gyda bandiau byw yn chwarae drwy’r dydd a thorf yn cyfarch y cystadleuwyr wrth iddyn nhw groesi’r llinell. Derbyniodd y timau a gwblhaodd yr her fedalau gan sêr lleol, gan gynnwys yr AS Roger Williams, Maer Aberhonddu, Neil Sandford a’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Meddai’r Cynghorydd Hopkins: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Cyn gynted ag yr oedden nhw wedi cael eu hanadl, roedd llawer o’r cystadleuwyr yn gofyn a fyddai yna ddigwyddiad arall y flwyddyn nesaf – rwy’n mawr obeithio mai dyma fydd dechrau digwyddiad blynyddol hynod lwyddiannus i’r gamlas.”

Ariannwyd y ‘Canalathon’ gan brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ariennir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a Llywodraeth Cymru. Mae’r ‘Canalathon’ yn cael ei drefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Glandŵr Cymru ac Adventa.

-DIWEDD-