Yn gynharach y bore hwn (dydd Iau 17 Gorffennaf), cafodd pridd o gopa Pen y Fan ei fendithio yn ystod gwasanaeth arbennig ar y mynydd a’i gario i lawr ar gyfer digwyddiad arbennig a gynhelir yn Fflandrys ar 16 Awst, lle bydd Cofeb Gymreig ar gyfer y rhai o dras Gymreig a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei dadorchuddio.
Wrth fendithio’r pridd, meddai’r Parchedig Richard Podger: “Wrth i ni ymgasglu yn y man arbennig hwn, ar gopa’r mynydd hwn gyda’r harddwch hwn o’n cwmpas, rydyn ni’n cofio ac yn cysylltu â’r rhai o Gymru a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac a fu farw yn Fflandrys ganrif yn ôl.
“Rydyn ni’n gweddïo y byddwn ni i gyd yn dysgu o’r gorffennol ac y bydd rhyfeloedd yn dod i ben mewn sawl rhan o’r byd. Felly, bendithia’r sampl hwn o bridd gwerthfawr i’w anfon i Fflandrys, ganrif ar ôl dechrau’r rhyfel, er cof am y rhai o’r rhan hon o’r byd a gollodd eu bywydau yno.”
Cafodd y Parchedig Richard Podger o Blwyf Cantref, lle lleolir Pen y Fan, gwmni bron i 40 o bobl, gan gynnwys y Cyrnol Kevin Davies, Dirprwy Gadlywydd yn y Frigâd HQ 160, ynghyd â swyddogion o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, aelodau o Bwyllgor y Gofeb Gymreig yn Fflandrys a thros 15 o fyfyrwyr Coleg y Fyddin.
Mae atgynhyrchiadau gwreiddiol o sachau tywod y Rhyfel Byd Cyntaf – a roddwyd gan y cwmni Mutoh o Wlad Belg i gydnabod y digwyddiad – wedi’u defnyddio i gasglu pridd o ddau fynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa a Phen y Fan; pridd a fydd yn cael ei osod yn Fflandrys mewn seremoni i gofio’r rhai o dras Gymreig a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd dau blentyn ysgol – un o Ogledd Cymru ac un o’r De – yn siarad yn y gwasanaeth arbennig yn Fflandrys, gan ddisgrifio dau filwr o Gymru a fu farw, cyn gosod y pridd wrth fôn y gofeb.
Dechreuwyd cynllunio’r digwyddiad bedair blynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn llafur cariad i Peter Carter Jones, sef cydgysylltydd arweiniol yr Ymgyrch Cofeb Gymreig yn Fflandrys. Mae draig efydd a gomisiynwyd yn arbennig wedi’i gosod ar ben y Gromlech, a bydd hi’n cael ei dadorchuddio gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol mewn gwasanaeth coffa arbennig ar 16 Awst.
Roedd bron i 40 o gynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bresennol yn y fendith i nodi dechrau siwrnai’r pridd dros y môr. Yn bresennol roedd Robert Reith a Joe Daggart o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru; y Cynghorydd Geraint John, John Cook, Julian Atkins a Jon Pimm o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Sue Brook o Blwyf Cantref, Brigâd 160 Cymru, Paul Silk ac Is-gyrnol Ian Gumm, aelodau o’r Ymgyrch Cofeb Gymreig yn Fflandrys, yr Is-gyrnol Jonah MacGill a’r Uwchgapten Bruce Radbourne o’r Infantry Battleschool.
Meddai’r Prif Weinidog, sy’n arwain dathliadau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Cymru trwy’r rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918: “Mae digwyddiad symbolaidd heddiw yn cydnabod aberth a dewrder anhygoel pobl Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y pridd yn cael ei gludo i Langemark, safle’r gofeb genedlaethol gyntaf y tu allan i Gymru, teyrnged barhaol i’r holl bobl o Gymru a gymerodd ran yn y Rhyfel. Mae’n anrhydedd mawr i mi ddadorchuddio’r gofeb newydd hon.’’
Wrth siarad ar gopa Pen y Fan, meddai’r Cyrnol Kevin Davies: “Mae hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i ni i gyd ac rydyn ni’n sefyll yma yn anrhydeddu’r rhai a fu farw. Y brwydrau y bu ein milwyr dewr yn rhan ohonynt oedd yr ysbrydoliaeth i mi ymuno â’r fyddin ac mae bod yma ar gyfer bendithio’r pridd hwn ar ddechrau ei daith dros y môr mewn teyrnged i’r rhai a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn arbennig iawn.”
Meddai Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n anrhydedd mawr i mi fod yma heddiw. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad coffa mor arbennig ar gyfer y rhai a wnaeth yr aberth eithaf. Mae’n anrhydedd ein bod ni’n gallu gwneud cyfraniad bach hyd yn oed fel rhan o’r rhaglen ehangach o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.”
-DIWEDD-