Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn dathlu darganfod yr ysgythriad craig cynhanesyddol cyntaf i’w gofnodi ym Mannau Brycheiniog.
Yn gwbl annisgwyl, sylwodd Alan Bowring (Swyddog Geoparc Fforest Fawr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) ar gyfres o ysgythriadau cynhanesyddol tua diwedd y llynedd – a chredir mai cymunedau ffermio cynhanesyddol a oedd yn gyfrifol amdanynt filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Roedd Alan, sy’n ddaearegwr, allan yn ymchwilio i nodweddion daearegol ar dir o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan welodd graig â marciau anarferol arni. Roedd yn synhwyro bod rhywbeth anarferol am y graig, felly gofynnodd am gyngor Natalie Ward, sydd â phrofiad o ddiogelu safleoedd o’r fath yng Ngogledd Lloegr. Roedd arolwg archaeolegol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei hun eisoes wedi canfod nodweddion o’r Oes Efydd yn yr ardal, gan roi rhyw faint o gyd-destun i orffennol y graig. Mewn cydweithrediad mae’r gelf graig wedi’i chyhoeddi heddiw ar ôl gwirio ei dilysrwydd.
Cadarnhaodd Dr George Nash, sy’n archaeolegydd ac yn arbenigwr mewn celf gynhanesyddol a chelf gyfoes ym Mhrifysgol Bryste, fod Alan Bowring wedi darganfod yr enghraifft gyntaf o ysgythriad craig cynhanesyddol i’w gofnodi ym Mannau Brycheiniog. Ar sail siâp y graig a’i hysgythriadau, roedd Dr Nash yn credu ei bod yn perthyn i gyfnod Cynnar neu Ganol yr Oes Efydd (tua 2500 i 1500 CC) a’i bod yn cael ei defnyddio mwy na thebyg fel nodwr llwybr ar ffurf maen hir ar gyfer cymunedau cynhanesyddol a oedd yn symud o gwmpas y dirwedd ddefodol dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
“Gallem fod wedi darogan y darganfyddiad hwn o ystyried yr holl safleoedd defodau cynhanesyddol sydd ym Mannau Brycheiniog, ond dyma’r dystiolaeth gyntaf o gelf graig gynhanesyddol i’w chofnodi erioed. Nid oes unrhyw feini hir cynhanesyddol diweddarach eraill â chafn-nodau (cafnau bach) yn y rhan hon o Gymru, sy’n golygu bod hon braidd yn unigryw”, meddai Dr Nash.
Mae’r maen tua 1.45m o hyd a 0.5m o led ac mae 12 cafn-nod o siapiau a meintiau gwahanol ar y wyneb. Mae’n gorwedd ar y tir ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl ei bod yn sefyll ar un adeg (gall rhagor o ymchwilio archaeolegol gadarnhau hyn o bosibl). Yn ôl Dr Nash, cafn-nodau yw’r dull celf graig gynhanesyddol diweddarach mwyaf cyffredin ym Mhrydain ac Ewrop, ond maent yn brin yng nghanolbarth Cymru.
Dywedodd Alan Bowring, a oedd yn gyfrifol am ddarganfod y maen: “Rwy’n gweithio ac yn cerdded mewn lleoliadau anghysbell yn aml, gan ddod ar draws nodweddion cuddiedig yn nhirwedd y De a’r Canolbarth. Ond mae’n ymddangos bod y darganfyddiad annisgwyl hwn, a ddigwyddodd wrth i mi chwilio am gliwiau i hanes daearegol cyffrous y safle, yn bwysig i’n dealltwriaeth o hanes diwylliannol.”
Dywedodd Joe Daggett, Rheolwr Cefn Gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberhonddu: “Mae hwn yn ddarganfyddiad cyffrous ac arbennig iawn. Er fy mod ychydig yn amheus ynglŷn â marciau’r maen yn wreiddiol, mae tarddiad y maen yn glir bellach, ac mae’n cyd-fynd ag archaeoleg yr Oes Efydd a gofnodwyd yn yr ardal hon yn y gorffennol. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod yr arteffact hwn yn cael ei ddiogelu’n briodol, a buom yn cydweithio â Cadw i roi’r broses hon ar waith, gan dderbyn cymorth Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Fel yr elusen gadwraeth fwyaf yn Ewrop, rydym yn awyddus iawn i ofalu am leoedd a phethau arbennig fel bod pobl yn gallu ymweld â nhw, ac mae hwn yn ddarganfyddiad unigryw iawn mewn rhan arbennig o Gymru.”
Bydd Archaeolegydd Cymunedol Cyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Archaeoleg Brydeinig, Charlie Enright yn trefnu nifer o ddyddiau archaeolegol ac arolygu yn yr ardal dros yr wythnosau nesaf. Meddai: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i gynnwys pobl leol mewn prosiect archaeolegol cyffrous. Byddant yn gweithio ochr yn ochr ac yn dysgu gan archaeolegwyr proffesiynol a phobl sy’n rhannu’r un diddordeb â nhw, yn ennill sgiliau newydd ac yn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r safle ardderchog hwn. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, mae’n rhaid cysylltu â mi ar unwaith gan fod lleoedd yn gyfyngedig!”
Bydd y gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau archaeolegol, gan gynnwys:
- Cofnodi’r maen gyda Dr George Nash.
- Cynnal arolwg geoffisegol yn yr ardal o gwmpas y maen i weld a oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol o dan yr wyneb.
- Monitro cyflwr a chynnal arolwg topograffig o’r archaeoleg gyfagos.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan dylech e-bostio Charlie Enright, Archaeolegydd Cymunedol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: charles.enright@nationaltrust.org.uk