Daeth ymweliad twristiaeth Ewropeaidd a ariannwyd gan y Cynghreiriau Gwledig i ben yr wythnos diwethaf (dydd Gwener 13 Chwefror 2015) ar ôl dau ddiwrnod o drafod, gweithdai ac ymweliadau diddorol â rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.
Llwyddodd yr ymweliad rhyngwladol, a gynhaliwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – partner arweiniol prosiect y Cynghreiriau Gwledig – i ddenu cynrychiolwyr twristiaeth o Iwerddon, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, gan roi cyfle iddynt rannu syniadau a chraffu ar arferion gorau yn yr ardal. Dros ddau ddiwrnod prysur, rhoddwyd sylw i ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheoli ymwelwyr, arallgyfeirio ar ffermydd, prynu’n lleol, cynhyrchwyr bwyd a llysgenhadon twristiaeth y Parc Cenedlaethol.
Meddai Richard Tyler, Rheolwr Twristiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod gyffrous i brosiect y Cynghreiriau Gwledig ac mae ymweliadau rhyngwladol fel y rhain yn ddigwyddiadau allweddol i ddenu cynrychiolwyr twristiaeth o’n timau Cynghreiriau Gwledig partner ledled Ewrop i graffu ar brosiectau llwyddiannus a chynllunio i’r dyfodol. Mae’r ymweliadau hyn yn ysbrydoli datblygiadau arloesol ac yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr twristiaeth Ewropeaidd rwydweithio, llunio strategaeth a chael syniadau a chysylltiadau newydd i adeiladu ar fomentwm y Cynghreiriau Gwledig – sydd bellach yn sbardun economaidd enfawr i gymunedau ledled Ewrop.”
“Rydyn ni wedi mwynhau ein hymweliad â Bannau Brycheiniog yr wythnos hon, ac mae eisoes wedi bod o fudd mawr i’r busnesau a’r aelodau a deithiodd fel rhan o’n parti. Ymwelwyd ag amryw o astudiaethau achos busnes rhagorol a thrafodwyd syniadau newydd, problemau cyffredin a sut i’w goresgyn. Rwy’n credu bod pwyntiau cadarnhaol a syniadau y gallwn ni eu rhoi ar waith ar ôl cyrraedd adref wedi codi o bob ymweliad busnes ar y daith hon”, meddai Anna Conner, Swyddog Datblygu Twristiaeth Cyngor Sir MAYO.
Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r mathau hyn o ymweliadau rhyngwladol yn bwysig iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn ogystal â sicrhau gwerth economaidd, rydyn ni hefyd yn meithrin perthynas â chyrchfannau gwledig eraill yn Ewrop er mwyn creu cysylltiadau a fydd yn fuddiol pan fyddwn ni’n ceisio datblygu rhaglenni Ewropeaidd newydd yn y dyfodol.”
Roedd y diwrnod cyntaf prysur yn cynnwys ymweliadau â Chynghrair Wledig Llangors a Bwlch (http://aroundllangorselake.co.uk/) i ddysgu am reoli ymwelwyr a thaith i Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (www.breconbeacons.org/national-park-visitor-centre), cyn symud ymlaen i Racquety Farm (http://racquetyfarm.com/) ger y Gelli Gandryll, lle bu’r perchennog Ros Garrett yn siarad am sut yr aeth ati i arallgyfeirio ar y fferm, gan gynnwys glampio, gwersylla a llogi canŵod.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod yn nhref Crucywel gydag ymweliad â’r Ganolfan Gwybodaeth ac Adnoddau lwyddiannus a reolir gan y gymuned (www.visitcrickhowell.co.uk/contact-cric), ac yna cafwyd sgwrs gan Emma Corfield-Waters, sef yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun ‘Totally Locally’ Crucywel (http://totallylocallycrickhowell.co.uk) sy’n ceisio annog pobl i brynu cynhyrchion a gwasanaethau lleol. Hefyd, bu Carol Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn siarad am sut yr aeth ati i ddarparu cynllun llwyddiannus Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol (http://www.breconbeacons.org/park-ambassadors) cyn i’r cynrychiolwyr fynd ymlaen i ymweld â’r cynhyrchydd bwyd lleol Welsh Venison Centre & Farm Shop (http://beaconsfarmshop.co.uk/).
Roedd ymweliad olaf y daith ag un o’r cynlluniau ymgysylltu â’r gymuned fwyaf llwyddiannus yn y Parc Cenedlaethol – Melin Talgarth a Bakers Table lle cafodd y cynrychiolwyr gyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus a thaith o gwmpas y felin. (www.talgarthmill.com).
-DIWEDD-