Mae detholiad newydd o nwyddau’r Parc Cenedlaethol bellach ar gael ar ein siop ar-lein ar ei newydd wedd

Ydych chi wrth eich bodd gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Yn chwilio am gofrodd o’ch ymweliad â’r ardal? Mae gennym newyddion da – mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig 20% o ostyngiad ar bopeth yn ei siop ar-lein newydd i gyd-fynd â phenwythnos Gŵyl Ddewi (Dydd Gwener 27 Chwefror tan ddydd Sul 1 Mawrth).

Yr wythnos hon, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ail-lansio ei siop ar-lein ar y wefan olwg newydd www.breconbeacons.org. Mae’r siop yn gwerthu detholiad o nwyddau newydd y Parc Cenedlaethol gan gynnwys llyfrau a siartiau syllu ar y sêr, tywyslyfrau cerdded, a chofroddion newydd fel peraroglydd ‘dom defaid’.

Meddai Wayne Lewis, Rheolwr Masnachol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  “Mae yna alw mawr am gynhyrchion sy’n helpu pobl i gynllunio eu hymweliad cyn dod yma. Rydyn ni’n arbenigo mewn llyfrau a chanllawiau wedi’u cynllunio a’u cynhyrchu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, nad oes ar gael yn unlle arall. Mae cryn alw am nwyddau a chofroddion am bris rhesymol gan bobl sydd wedi symud o’r ardal, ond sydd eisiau rhyw fath o gysylltiad â’r Parc Cenedlaethol. Rydym yn gobeithio y bydd yr ail-lansio hwn yn cynnig cyfle gwych i siopwyr ar-lein ddod o hyd i’r anrheg neu’r gofrodd berffaith, a gobeithio y bydd y gostyngiad o 20% yn annog pobl i fentro prynu rhywbeth gwahanol i’r arfer ”

Dywedodd Mr Ian Rowat, aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae’n werth mynd i’n siop ar-lein newydd os ydych chi eisiau’r mapiau, llyfrau a chanllawiau gorau ar gyfer eich ymweliad â’r Parc Cenedlaethol. Mae hefyd yn cynnig llu o anrhegion a chofroddion i rai sydd am fynd ag atgofion o’r ardal nôl adre gyda nhw, neu i drigolion y Parc Cenedlaethol sy’n chwilio am rodd i adlewyrchu’r ardal hyfryd hon i’w ffrindiau neu berthnasau. Gall siopwyr ar-lein deimlo hyd yn well am yr hyn a brynwyd o wybod bod holl elw’r siop ar-lein yn cefnogi gwaith gwerthfawr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog”.

Ymhlith yr eitemau sydd wedi gwerthu orau ar-lein yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pecyn “Mountain Biking in the Bannau Brycheiniog” gyda chardiau â llwybrau beicio mynydd (yn arbennig i Awdurdod y Parc Cenedlaethol), mapiau Arolwg Ordnans a “Guide to Waterfalls Country”.

Mae’r holl stoc ar werth gydag 20% o ostyngiad dros benwythnos Gŵyl Ddewi trwy ddefnyddio’r cod taleb stdavid ar waelod y dudalen dalu.

-DIWEDD-