DATGANIAD A LLUN I’R WASG

Ghurkha Presentation

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o gyflwyno bron i £300 i Ymddiriedolaeth Elusennol y Gurkhas yn ystod seminar Aelodau’r Parciau Cenedlaethol y llynedd. Fel cefnogwr hir oes o’r Gurkhas yng Nghymru, gofynnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r aelodau fynd yn ddwfn i’w pocedi yn ystod swper a baratowyd gan y Gurkha Demonstration Company ddiwedd 2014.

Cyflwynodd y Cynghorydd Evan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy siec i’r Capten Dhalindrabahadur Khatri Chhetri, Pennaeth Platŵn y Ghurkha Demonstration Company. Roedd y Capten yn croesawu’r cyfle i weithio gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â ni yn y dyfodol.

-DIWEDD-