Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal gweithdy agored ar 4 Chwefror yn Neuadd y Dref Talgarth, er mwyn trafod pa mor ymarferol yw cyflwyno gwasanaeth bws newydd ar ddydd Sul yn cysylltu’r Gelli Gandryll, Aberhonddu, Tal-y-bont ar Wysg, Bwlch, Crucywel, Talgarth, Llan-gors a gorsaf drenau’r Fenni.
Gan fod gwasanaeth bws Hay Ho! Grŵp twristiaeth y Gelli Gandryll wedi profi’n llwyddiant, gwasanaeth sy’n rhedeg rhwng y Gelli a Henffordd bob dydd Sul ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrthi’n cynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth bws cymunedol newydd ar y Sul. Bydd yr astudiaeth hefyd yn ystyried llwybrau teithio ac amserlenni sy’n cysylltu cymunedau’r Parc Cenedlaethol. Gyda chymorth ariannol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog trwy Raglen Cynghreiriau Gwledig Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop, bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i gostau posibl gwasanaeth o’r fath yn ogystal â ffynonellau ariannu posibl.
Cynhelir y gweithdy rhwng 2 a 4 o’r gloch brynhawn Mercher 4 Chwefror yn Neuadd y Dref Talgarth. Mae croeso i gymunedau a busnesau lleol ddod draw er mwyn gweld faint o ddiddordeb sydd yn y gwasanaeth bws newydd arfaethedig hwn, a fydd yn dibynnu’n fawr ar gefnogaeth a chyfraniad cymunedol.
Meddai Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Er bod y ffaith bod gan Awdurdodau Lleol lai o arian yn golygu bod toriadau i wasanaethau bysiau yn fwy tebygol na chreu gwasanaethau newydd ar hyn o bryd, mae enghreifftiau o lwyddiannau diweddar fel gwasanaeth bws Hay Ho! rhwng y Gelli Gandryll a Henffordd, lle mae cymunedau a busnesau lleol wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gefnogi gwasanaethau bws ar y Sul. Mae Cynghreiriau Gwledig yn falch o gefnogi’r astudiaeth hon gan ei bod yn cyd-fynd yn berffaith â’n nod o gefnogi cymunedau bywiog cynaliadwy. Mae’r amseru’n berffaith os am weld y prosiect ar waith erbyn yr haf, felly byddwn yn ceisio anfon copi o’r astudiaeth ddichonoldeb at bobl cyn y gweithdy, fel eu bod yn mynychu’r gweithdy gyda digon o wybodaeth ymlaen llaw ac yn barod i wneud penderfyniadau. Dyma drefn y gweithdy:
- Cyflwyniad i wasanaeth bws Hay Ho!
- Cyflwyno’r astudiaeth ddichonoldeb
- Trafod llwybrau posibl a’r costau
- Casgliadau/cofrestru ymrwymiad
- Sefydlu grŵp llywio
- Amserlenni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog trwy e-bostio annie.lawrie@beacons-npa.gov.uk neu ffonio 01874 620 480. Mae’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael trwy’n tudalen facebook hefyd- https://www.facebook.com/pages/Hay-Ho-Bus/520031264799155
-ENDS-