Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi llwyddo i gyflawni ei ailasesiad ar gyfer Siarter Uwch ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae’r addewid i roi’r hyfforddiant a’r cymorth gorau posibl i’w Haelodau wedi’i gadarnhau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn dilyn dyfarnu’r Siarter Sylfaenol yn 2009 a’r Uwch Siarter yn 2011 – a ail-ddilyswyd ddiwedd y llynedd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw’r unig ddau awdurdod lleol sydd â’r Uwch Siarter ar hyn o bryd.

Cyflwynodd Sarah Titcombe o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y Siarter o fri i Melanie Doel, Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan longyfarch Aelodau’r Awdurdod am eu hymrwymiad cryf i ddatblygu aelodau, a ddangosai bod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ymagwedd hyblyg a chadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu. Aeth ymlaen i ddweud: “Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eich canmol am ansawdd y cais a’r arferion a gynrychiolir ganddo, rydych chi’n sefydliad disglair o ran arferion gorau yma yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a gyfrannodd at Raglen Datblygiad Parhaus a Sefydlu Aelodau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’n amlwg bod yr aelodau’n gwerthfawrogi arbenigedd ein swyddogion ac yn mwynhau eu sesiynau datblygu. Diolch hefyd i’r holl aelodau sy’n cefnogi’r rhaglen ac yn mynd ati i ehangu eu harbenigedd a’u gwybodaeth er lles y Parc Cenedlaethol a’i gymunedau.

Datblygwyd y cynllun Siarter gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda’r nod o annog holl awdurdodau lleol, gan gynnwys awdurdodau’r parciau cenedlaethol a’r awdurdodau tân ac achub, i ddarparu rhaglenni sefydlu a rhaglen datblygu parhaus o’r radd flaenaf i’w Haelodau gydol eu hamser yn y swydd.

Mae 24 aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dilyn rhaglen sefydlu fanwl fel rhan o fframwaith datblygu 4-5 mlynedd, sy’n cynnwys nid yn unig rhaglen sefydlu benodol ar gyfer gwneud penderfyniadau trwy bwyllgorau, ond hefyd ymweliadau â safleoedd, cwrdd â chynrychiolwyr cymunedau a threulio amser gyda’n staff ‘ar lawr gwlad’ er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled y Parc.

Meddai Melanie Doel, Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Gwaith tîm gwych rhwng yr Aelodau a’r swyddogion sy’n gyfrifol am y llwyddiant arbennig hwn – yn enwedig Julia Gruffydd ein Swyddog Gwasanaethau Democrataidd sydd wedi llunio rhaglenni datblygu yn seiliedig ar anghenion yr Aelodau sy’n rhoi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw wneud penderfyniadau ar gyfer y Parc a’i gymunedau. Hoffem ddiolch yn arbennig hefyd i Sarah Titcombe o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am weithio’n ddiflino ledled Cymru ers deng mlynedd a mwy, yn cefnogi aelodau a swyddogion a hyrwyddo’r safonau uchaf mewn llywodraethu a datblygu aelodau.”

-DIWEDD-