Yn sgil y gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus, mae’n ofynnol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog leihau costau o fewn y sefydliad a bodloni’i flaenoriaethau strategol yr un pryd. Y llynedd, nodwyd bod angen arbed £650,000 rhwng 2014/2015 a 2015/2016.
Wrth nodi’r arbedion hyn, cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad o gostau’r holl wasanaethau ac ystyried sut i sicrhau bod prosesau busnes yn fwy effeithiol, nodi arbedion effeithiolrwydd a chynyddu faint o incwm a gynhyrchir gan yr Awdurdod.
Tra bod cryn dipyn o’r arbedion gofynnol eisoes wedi’u cyflawni, mae’n fwyfwy amlwg bod penderfyniadau anodd iawn yn wynebu’r Awdurdod yn 2015/16 a thu hwnt, gan na fydd arbedion yn unig yn ddigon i fynd i’r afael â’r bwlch disgwyliedig rhwng cyllid a gwariant.
Yn gynharach heddiw, cynhaliwyd cyfarfod rhwng John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a staff y Parc Cenedlaethol er mwyn amlinellu’r cynigion ar gyfer gwneud arbedion pellach. Yn anffodus, roedd hyn yn cynnwys hysbysu staff bod pedair swydd mewn perygl. Meddai Mr Cook: “Rydym yn dal i bwyso a mesur pob math o ddewisiadau wrth baratoi ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, fe wnawn ein gorau glas i gadw nifer y diswyddiadau mor isel â phosibl, ond mae’r holl arbedion sydd angen eu gwneud yn golygu bod rhai colledion swyddi yn anorfod, gwaetha’r modd. Rydym yn wir werthfawrogi ymroddiad a gwaith caled ein staff yn ystod y cyfnod anodd hwn, a byddwn yn gwneud popeth posibl i’w cefnogi yn sgil rhagor o doriadau ariannol. Fel pob awdurdod lleol a chyngor arall yng Nghymru, bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dal ati yn wyneb yr heriau ariannol sydd o’n blaenau.
Bydd cynigion y gyllideb yn mynd gerbron y Pwyllgor Archwilio a Chraffu ddydd Gwener 23 Ionawr 2015, gyda’r argymhellion a’r cynigion cyllideb terfynol yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r Awdurdod ar gyfer cymeradwyo ddydd Gwener 6 Chwefror 2015.
–DIWEDD-