Ewch Dan Ddaear ym Mannau Brycheiniog

ebrTeithiau Dan Ddaear a lansiwyd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros y Pasg – profiad newydd sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr gymryd teithiau tywys hanner diwrnod i systemau ogofâu na fyddent yn gallu mynd i’w gweld fel arfer.  Mae’r teithiau yn rhan o brosiect partneriaeth newydd sy’n cynnig ffordd wahanol i grwydro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy fynd o dan y ddaear. Mae’r teithiau tywys yn ymweld â rhai o’r ceudyllau mwyaf o fewn y systemau enfawr o ogofâu o dan y Parc.  Daw’r prosiect â dau o’r atyniadau presennol at ei gilydd sef Ogofâu Dan yr Ogof ac Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit – ynghyd â’r teithiau tywys o dan y ddaear a gynigir gan y sector gweithgareddau Awyr Agored.

Matt Woodfield yw Cydlynydd Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru ac meddai wrthym

“Byddai pobl na fyddent fyth yn ystyried mynd i ogofa oherwydd eu bod yn credu y bydd ogofâu yn rhy fach a brawychus yn llawer mwy cyfforddus ar y teithiau dan ddaear hyn. Maent yn rhoi cyfle i ymwelwyr fynd i weld yr ogofâu a cherdded o’u cwmpas yn rhwydd.  Mae pob taith yn cael ei harwain gan dywysydd gwybodus sy’n gallu siarad am sut y cafodd y ceudyllau eu ffurfio yn ogystal â sôn am rai o’r anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yno ac nad ydynt fyth yn gweld golau dydd.”

Helpodd Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gydlynu’r prosiect, ac ychwanegodd

“Y partneriaid eraill yn y prosiect yw Dan yr Ogof a Big Pit. Mae’r ddau yn atyniadau sydd wedi eu hen sefydlu, ond roeddem yn awyddus i’w marchnata gyda’r teithiau golygfaol gan fod pob un ohonynt yn cynnig safbwynt gwahanol ar y profiad unigryw o fynd dan ddaear yn y Bannau – er enghraifft, mae’n helpu ymwelwyr i ddeall bod ymweld â Dan yr Ogof yn gyfle unigryw i archwilio rhan o system ogofâu llawer mwy sy’n ymestyn allan i fynyddoedd Cymru.”

Mae Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit yn dathlu gorffennol diwydiannol Cymru ac mae wedi datblygu arddangosfa newydd ar gyfer y prosiect hwn – y Brenin Glo.  Mae’r oriel a leolir ar y bryn uwchlaw’r pwll glo yn ail-greu’r gweithfeydd tanddaearol ac yn dangos sut roedd glowyr yn defnyddio ffrwydron a pheiriannau anferth i dorri’r graig i gyrraedd eu gwobr – y glo.

Meddai Dai Price, Pennaeth Big Pit wrthym;

“Mae’r daith dan ddaear yn Big Pit, a arweinir gan gyn-löwr, eisoes yn enwog ledled y byd – rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn crwydro o gwmpas y safle a gweld arddangosfeydd Baddondai Pen y Pwll a’r Brenin Glo hefyd i gael y darlun llawn – mae yna hyd yn oed fwy i Big Pit nag y byddech yn ei feddwl.”

Pleidleisiwyd Dan-yr-Ogof, Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru yn ‘Rhyfeddod Naturiol Gwychaf Prydain’. Mae’r atyniad poblogaidd hwn yn gartref i Ogof Dan-yr-Ogof gyda’i cheudyllau sydd wedi eu goleuo’n hardd, ei thramwyfeydd troellog, a’i ffurfiadau rhyfeddol o greigiau naturiol. Mae Ogof ysblennydd yr Eglwys Gadeiriol yn agor yn siambr enfawr gyda llynnoedd a rhaeadrau tanddaearol, ac yn ychwanegol at hyn mae Ogof yr Esgyrn, lle canfuwyd 42 o ysgerbydau dynol yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.   Gellir gweld casgliad rhyfeddol o fodelau o ddinosoriaid llawn maint, amgueddfa ryngweithiol, canolfan ceffylau gwedd ac ardal fferm, a safleoedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored yng Nghanolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru Dan-yr-Ogof.

Eglurodd y Cyfarwyddwr James Price yn yr Ogofâu Arddangos “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect ‘Ewch Dan Ddaear’, gan ei fod yn helpu i wneud y byd tanddaearol gwych yn hygyrch i ymwelwyr nad ydynt efallai yn sylweddoli beth sydd o dan eu traed!  Mae’r Ogofâu Arddangos yn cynnig cyfle unigryw i archwilio a mwynhau’r tramwyfeydd hyn a ffurfiwyd yn naturiol, a gallai ymwelwyr hefyd weld rhannau pellach o’r ogofâu yn ein harddangosfeydd rhyngweithiol, rhywbeth nad oedd ond ogofäwyr profiadol wedi ei weld o’r blaen!”

Mae manylion pellach am fynd o dan y ddaear ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gael yn http://www.breconbeacons.org/sightseeingunderground

-Diwedd-