Llwyddiant wrth i Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr dderbyn cerdyn gwyrdd

Mae Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu cadw ei statws fel Geoparc Byd-eang UNESCO. Asesir pob Geoparc bob pedair blynedd i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r safon briodol i’r teitl – dyma drydydd cerdyn gwyrdd y Geoparc, sy’n golygu ei fod yn rhan ardderchog o’r Parc Cenedlaethol.

Cymerodd 480 miliwn o flynyddoedd i ffurfio Fforest Fawr, ac mae’i haenau o graig yn nodweddiadol yn fyd-eang. Mae Fforest Fawr yn cwmpasu hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru, ac mae’n ymestyn o Lanymddyfri yn y gogledd i Ferthyr Tudful yn y de, ac o Landeilo yn y gorllewin i Aberhonddu yn y dwyrain. Mae’r dirwedd yn enwog am ei golygfeydd dramatig a rhaeadrau ysblennydd, ond mae’r Geoparc yn dathlu ei dreftadaeth ddaearegol a ffurfiwyd gan rew ac a newidiwyd gan ddyn drwy amaethyddiaeth a’r chwyldro diwydiannol. Mae ganddo gymunedau amrywiol, sy’n cydweithio i hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy, yn enwedig drwy dwristiaeth.

Dywedodd Dr Tony Ramsay, Cyfarwyddwr Gwyddonol Geoparc y Fforest Fawr: “Roedd yn bleser tywys dau aseswr Geoparc Byd-eang UNESCO o amgylch Geoparc y Fforest Fawr yr haf diwethaf ac mae’r canlyniad cadarnhaol yn dangos bod popeth a welsant wedi creu argraff dda.”

Nododd Deborah Perkin, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Aelod Hyrwyddwr Busnesau a Chymunedau: “Mae Geoparc Byd-eang UNESCO yn cydnabod man gyda threftadaeth ddaearegol o arwyddocâd byd-eang, y mae cymunedau lleol yn falch ohono. Wrth i Fforest Fawr unwaith eto dderbyn cerdyn gwyrdd UNESCO fel un o’r safleoedd hyn, mae hyn yn gamp enfawr i ni yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel un o bartneriaid y Geoparc. Rydym yn annog pawb i ymweld a phrofi Geoparc y Fforest Fawr eu hunain – mae’r ‘Geofest’ flynyddol yn digwydd o 20 Mai i 4 Mehefin, gyda theithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau ac mae’n gyfle delfrydol i ddod i adnabod yr ardal.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Cefn Gwlad a Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r ailddilysiad llwyddiannus yn cadarnhau bod Fforest Fawr o’r un safon â safleoedd dynodedig eraill UNESCO ar draws y byd. Ond mae ein hymgysylltiad â phartneriaid a chymunedau lleol yr un mor bwysig ac rydym yn falch bod ein cydweithio wedi cael ei gydnabod gan UNESCO. Hoffwn ddiolch i bawb ynghlwm â’r Geoparc sydd wedi cyfrannu at y canlyniad hwn. Nawr byddwn yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth, i hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o bob agwedd o dreftadaeth ddaearegol yr ardal drwy ymgysylltu â Rhwydweithiau Geoparc Byd-eang Ewropeaidd a chymuned Geoparc Byd-eang UNESCO.”

Am fwy o wybodaeth am Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr ewch i www.fforestfawrgeopark.org.uk

DIWEDD