Seremoni wobrwyo’n dathlu Gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol

Dathlwyd gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddydd Gwener 7 Ebrill mewn seremoni wobrwyo arbennig. Mynychwyd y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhencadlys yr Awdurdod yn Aberhonddu gan aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gwirfoddolwyr, staff a nifer fawr o bobl o gymuned Gurkha Nepalaidd Aberhonddu.

Cafodd y gwirfoddolwyr ddwy set o Wobrau, Gwobrau Huw Price a Gwobrau Gwirfoddolwyr Parciau Cenedlaethol y DU:

Mae Gwobr Huw Price yn cydnabod cyflawniadau’r gwirfoddolwyr yn y parc. Sefydlwyd y wobr gan yr Awdurdod er anrhydedd i Huw Price, Cydlynydd Gwirfoddoli’r Parc Cenedlaethol a fu farw’n drychinebus. Mynychodd gwraig weddw Huw, Louise Price, a’u mab ifanc Henry Price y seremoni er mwyn cyflwyno’r gwobrau hyn – un i’r gwirfoddolwr unigol, Joe Minihane a’r ail i Guptaman Gurung ar ran y Grŵp Llwybr Troed Cymunedol Nepalaidd.

Adlewyrchwyd y llwyddiant lleol wrth ennill Gwobrau Huw Price ar lefel Genedlaethol hefyd gyda’r un gwirfoddolwyr ym Mannau Brycheiniog yn ennill dwy o’r tair gwobr Parciau Cenedlaethol y DU sydd ar gael. Roedd Kathryn Cook, Cyfarwyddwr y DU Parciau Cenedlaethol y DU ochr yn ochr â Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bresennol i longyfarch yn swyddogol a chyflwyno tystysgrifau i enillwyr y gwobrau hyn. Aeth yr un cyntaf unwaith eto at Joe Minihane am ei gyfraniad eithriadol i wirfoddoli yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Aeth y llall i’r grŵp Llwybr Troed Cymunedol Nepalaidd a fynychwyd gan sawl aelod ohonynt, am y gwaith eithriadol maen nhw wedi’i wneud ar y llwybrau troed o gwmpas Aberhonddu. Roedd arweinydd y grŵp, Guptaman Gurung, ynghlwm â phrosiect mentora gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a deilliodd prosiect y llwybr troed o’r cyswllt hwn. Mae Llwybr y Gurkha, fel y mae’n cael ei adnabod erbyn hyn, yn boblogaidd iawn ymhlith teuluoedd a cherddwyr cŵn lleol.

Estynnwyd llongyfarchiadau pellach i Chris Evans, Arweinydd Gwirfoddoli grŵp Gwirfoddoli Ucheldir yr Awdurdod. Chris yw gwirfoddolwr cyntaf y parc sydd wedi cyflawni Gwobr Gwarchodwr John Muir. Cynllun cenedlaethol yw hwn sy’n cydnabod cyfraniad eithriadol i gadwraeth. Roedd ei brosiect i John Muir yn cynnwys cynnal gwaith arolwg ar ddefnydd llwybrau troed.

Ychwanegodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Gwirfoddolwyr yw arwyr di-glod y Parc Cenedlaethol. Mae gennym 195 o wirfoddolwyr yn y parc ar hyn o bryd a chyfrannon nhw 13,000 o oriau neu 345 wythnos o’u hamser eu hunain dim ond llynedd yn helpu gofalu am y dirwedd arbennig hon. Rydym yn hynod falch o’n cynllun gwirfoddoli a’r staff sy’n helpu ei redeg. Mae eu hamser, ymdrech a brwdfrydedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i sicrhau dyfodol ein Parc Cenedlaethol.”

DIWEDD