Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Du yn ennill grant o ychydig dros 1 miliwn

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Du ei bod wedi llwyddo i gael grant o £1,004,155.00 gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) am ei phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n cael ei hariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau y gall y bartneriaeth ddatblygu ei nod o hyrwyddo gwella, adfer a rheoli cynaliadwy parhaus adnoddau naturiol y Mynyddoedd Du, ehangder eiconig o gomin ucheldirol sy’n pontio Cymru a Lloegr ar draws Siroedd Brycheiniog, Mynwy a Henffordd.

Mae’r bartneriaeth arloesol hon yn uno rhanddeiliaid allweddol yr ardal, gan gynnwys porwyr o Gymdeithas Porwyr y Mynyddoedd Du a pherchnogion tir preifat; Stâd Glanusk, Stâd Tregoyd, Stâd Bal Mawr/Bal Bach, Stâd Dug Beaufort, Stâd Glanusk, Stâd Michaelchurch a  Stâd Ffwddog. Ynghyd â chyrff sy’n berchen ar dir gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, Dŵr Cymru a chefnogaeth gan y Clwb Ffermwyr Ifanc. Wrth weithio gyda’i gilydd nod y partneriaid yw gwella hyfywdra ac ansawdd arferion ffermio traddodiadol sy’n cyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd y rhain yn cynnwys rheoli rhedyn, adfywio grug, gwella tir pori a gwarchod adnoddau mawn ar draws tirwedd y Mynyddoedd Du. Bydd gwelliannau sydd wedi cael eu cynllunio i fynediad at dda byw yn helpu gyda rheoli stoc a hefyd yn gwella profiad ymwelwyr â’r ardal. Bydd cymunedau lleol yn cymryd rhan wrth ddatblygu rhaglen sgiliau gwledig, ymgysylltu ag ysgolion a chreu cyfleoedd gwaith gan gynnwys dwy swydd coedwigo’r bartneriaeth.

Dwedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol a Chadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Du – Phil Stocker:
“Mae canlyniad llwyddiannus cais SMS am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych ac yn benllanw ymdrech ac ymrwymiad enfawr gan yr holl bartneriaid fu’n cydweithio ar y broses am dros flwyddyn. Mae’r Mynyddoedd Du’n dirwedd fyw ble mae pobl yn gweithio, ac yn lle sy’n ddibynnol ar hyfywdra cannoedd o fusnesau preifat sy’n gweithio o  fewn, ac yn dibynnu ar, amgylchedd sy’n gynaliadwy, deniadol, ac yn darparu nifer o ganlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Nid yn unig y bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddyfodol ei gymunedau gwledig ond hefyd i bobl sy’n ymweld â’r ardal. Mae gan unrhyw beth sy’n cael ei ddysgu drwy’r gwaith hwn hefyd botensial i fod o fudd i nifer o gymunedau eraill yng Nghymru a thu hwnt ac rydyn ni’n falch ac yn gyffrous y gallwn ni ddechrau rhoi ein cynlluniau ar waith.”

Am ragor o wybodaeth am sut mae’r Bartneriaeth yn gweithio, dilynwch hi ar Twitter @BMLUP ac yn www.blackmountains.wales

Y DIWEDD