Seminar Partneriaeth Parciau Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd seminar yr wythnos ddiwethaf yng Ngwesty’r Castell, Aberhonddu, ar gyfer aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru er mwyn trafod polisi a phartneriaeth. Mynychwyd y cyfarfod deuddydd gan aelodau o barciau Eryri, Bannau Brycheiniog, ac Arfordir Penfro, a chynhaliwyd cyfres o gyflwyniadau a gweithdai.

Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Gweithio mewn Partneriaeth, a Chynllun Tirwedd y Dyfodol. Bu’n gyfle i’r tri Pharc rannu eu harbenigedd a’u profiad wrth drafod Polisïau Llywodraeth Cymru a cheisio canfod dull o weithio ar y cyd. Roedd cynrychiolwyr o Sector Amgylcheddol Llywodraeth Cymru’n bresennol hefyd, gan gynnwys Cymdeithasau’r Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru.

Mae parciau Eryri, y Bannau, a Phenfro yn chwarae rhan allweddol yng Nghymru- yn ogystal â gwarchod a chynnal ein tirweddau naturiol, mae’r parciau hefyd yn cyd-weithio â chymunedau lleol, ysgolion, a busnesau. Maent yn hwyluso mwynhad o’n hamgylchedd, gan hybu gweithgareddau hamdden a lles cymdeithasol, tra hefyd yn cynnal diwydiant twristiaeth gadarn.

Bu’r Aelod Cynulliad, Eluned Morgan, yn siarad, gan drafod yr heriau economaidd sy’n wynebu cefn gwlad Cymru, y newidiadau ym myd amaeth, a bywyd wedi Brexit. Dywedodd: “Mae’r economi wledig yn hanfodol i Gymru, ac mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn hanfodol wrth gynnal a chefnogi’r economi honno. Mae’n wych gweld cymaint o gydweithio a thrafod ynglŷn â’r materion pwysig yma.”

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n fraint i ni gael cynnal y digwyddiad hwn yma yn y Bannau, ac mae’r cyfle i rannu gwybodaeth yn werthfawr iawn i ni gyd. Mae’n allweddol bod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru’n cydweithio mewn ffyrdd dyfeisgar er mwyn cyflawni’r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.”

DIWEDD

 

Lluniau: Chwith i Dde: Tegryn Jones, CEO of Pembrokeshire Coast National Park Authority, Mrs Gwyneth Hayward, Chairman of Pembrokeshire Coast National Park Authority, Mr Owain Wyn, Chairman of Snowdonia National Park Authority, Baroness Eluned Morgan of Ely, AM, Mr Emyr Williams, CEO of Snowdonia National Park Authority, Mrs Mel Doel, Chairman of Bannau Brycheiniog National Park Authority, Mr John Cook, CEO of Bannau Brycheiniog National Park Authority and Cllr Rosemarie Harris, Leader of Powys County Council.