Y Gorffennol yn dod yn fyw diolch i Haneswyr y Dyfodol!

O ddarganfyddiadau cerrig hynafol i Rufeiniaid digidol i ailgodi adfeilion; daeth y gorffennol yn ôl yn fyw mewn Diwrnod Treftadaeth a gynhaliwyd yn Theatr Brycheiniog. Trefnwyd a chynhaliwyd y digwyddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid amrywiol.

Roedd y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd ar 15 Hydref, yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau diddorol ar bynciau yn ymwneud â threftadaeth o fewn y parc. Canolbwynt y cyflwyniadau oedd ‘Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’, ‘Technoleg Ddigidol a Threftadaeth’, ‘Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon’, ‘Llwyncelyn’, ‘Castell y Gelli’, ‘Y Gwaith Powdr Gwn’ ac ‘Adfer Neuadd Sir Frycheiniog’.

Y tu allan i’r theatr roedd arddangosfeydd gan sawl sefydliad partner ac roedd cyfle i’r rhai oedd yn mynychu gael gwybodaeth bellach a thrafod prosiectau cyfredol yn ystod egwylion.

Sêr y digwyddiad, serch hynny, oedd haneswyr y dyfodol, pobl ifanc Clwb Archeolegwyr Ifanc a lansiodd ffilm fer. Wrth gael eu cyfweld ar y llwyfan, siaradodd y bobl ifanc am eu brwdfrydedd a’u hoffter o hanes, ac roedden nhw’n awyddus i rannu straeon ynglŷn â sut maen nhw’n dod â hanes yn fyw yn eu clwb.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n braf gweld cymaint o bobl yma’n cefnogi’r digwyddiad, ac mae’n ddiddorol iawn clywed cyflwyniadau ar gymaint o bynciau hanesyddol. Mae treftadaeth yn un o themâu rheoli’r Awdurdod ac mae heddiw wedi amlygu gwaith cyfredol o fewn y parc. Mae’n galondid gweld a chlywed gan aelodau Clwb Archeolegwyr Ifanc, haneswyr y dyfodol!”

 – DIWEDD –