Cyllid ar gyfer Prosiectau Cymunedol ar gael

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn annog grwpiau cymunedol lleol i wneud cais am gyllid ar gyfer eu prosiectau. Cynigir y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sydd werth cyfanswm o £200,000 y flwyddyn, i brosiectau cymunedol sy’n datblygu ac yn profi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw yng nghefn gwlad a helpu gwella safon byw.

Mewn cyfarfod diweddar rhoddodd y Gronfa dros £5,000 i Brosiect Effeithlonrwydd Egni Canolfan Gymunedol ac Ieuenctid Llangors fel y gellid gosod system wresogi fwy effeithlon a gwell goleuo. Cafodd Prosiect Fferm Ysgol Bro Dinefwr £8,000 i’w helpu i adeiladu dosbarth tu allan, fydd yn galluogi disgyblion i astudio ac ymchwilio erw o dir fydd yn cael ei ddefnyddio i dyfu llysiau a gofalu am ieir a gwenyn. Bydd grant o dros £9,000 yn galluogi Cyngor Sir Powys i ddatblygu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ardal Gwella Busnes Aberhonddu a rhoddwyd bron i £1,000 i helpu Sustrans i ymchwilio i ddichonoldeb llwybr seiclo o Aberhonddu i’r Gelli.

Dywedodd Deborah Perkin, Hyrwyddwr Cymunedau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn buddsoddi mewn grwpiau cymunedol lleol. Daw newidiadau mawr o egin bychan yn aml, ac mae’n wych gweld cymaint o brosiectau rydyn ni wedi rhoi help llaw iddyn nhw ddechrau, yn ffynnu. Rwy’n annog pobl leol i wneud cais am gyllid os oes ganddyn nhw brosiect fydd yn gwella eu cymunedau ar gyfer y dyfodol. Yn syml, dylen nhw gysylltu â’n staff Datblygu Cynaliadwy. Gobeithio y bydd pobl yn cael eu hannog i roi eu syniadau gwych ar waith, a byddwn ni’n gwneud ein gorau i’w helpu nhw ddatblygu!”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae datblygu cymunedau gwydn yn un o brif amcanion y Parc Cenedlaethol ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau am amrywiaeth eang o brosiectau gan fod meini prawf y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn eithaf eang. Cysylltwch â’n Swyddogion isod i drafod cymhwysedd eich prosiect.”

Os oes gennych chi syniad/prosiect yr hoffech ei drafod, e-bostiwch sdf@beacons-npa.org.uk – y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 1 Tachwedd 2018.

 – DIWEDD –