Cefnogaeth Ariannol ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb Coleg Newydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  wedi dyfarnu £82,500 er mwyn  cefnogi Prosiect Coleg y Mynyddoedd Du.

Mae’r dyfarniad, o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, wedi’i wneud er mwyn galluogi trefnwyr Coleg y Mynyddoedd Du i ymgymryd ag astudiaeth dichonoldeb ac arfarniad dewisiadau llawn.

Y weledigaeth ar gyfer y prosiect, os y bydd yn llwyddiannus, yw creu Prifysgol fodern rhyngddisgybledig, o fewn y Parc Cenedlaethol, a fydd yn arloesi mewn dulliau newydd o feddwl, dysgu a gweithio. Mae’r heriau byd-eang sy’n ein hwynebu mewn perthynas â newid hinsawdd, newid economaidd a newid mewn poblogaeth yn gofyn am fodelau newydd o ddysgu a system addysg bellach sydd wedi’i theilwra i gwrdd ag anghenion y 21 ganrif.

Mae’r prosiect hefyd yn adnabod pwysigrwydd twf economaidd ac adfywio yng nghefn gwlad Cymru ac yn cynnig y bydd datblygiad o’r fath yn cynorthwyo i gwrdd â’r amcanion hyn.  Yn parhau i fod yn y cyfnod datblygu cynnar iawn, mae prosiect Coleg y Mynyddoedd Du yn weledigaethol, modern, a fydd yn un unigryw iawn o fewn y DU pe bai’n cael ei greu. Yr astudiaeth dichonolrwydd yw’r cyfnod allweddol cyntaf wrth ymchwilio i ba un ai gall y weledigaeth ddod yn realiti ymarferol ai peidio.

Dywedodd yr awdur Cymraeg, Owen Sheers, sydd yn un o drefnwyr y prosiect; “Rydym yn credu’n gryf fod Coleg y Mynyddoedd Du  yn brosiect hanfodol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r syniad o brifysgol gymunedol newydd er mwyn gyrru adfywiad a chreu swyddi newydd yn yr ardal yn un cyffroes, ac mae’r gefnogaeth hael hon gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gam cyntaf hollbwysig.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir a Chefn Gwald ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “ Mae prosiect Coleg y Mynyddoedd Du yn ysbrydoledig a gweledigaethol i’r ardal hwn, a hefyd i Gymru gyfan. Mae’n cynnig posibiliadau a chyfleoedd mawr ar gyfer y dyfodol. Mi fydd yr arian a ddyfarnwyd gennym yn galluogi i dîm y prosiect ymchwilio i ba un ai fod y prosiect hwn yn ddichonadwy ai peidio.”

– DIWEDD –