Llwyddiant i’r Mynyddoedd Duon!

Yn ddiweddar, dechreuodd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon gam cyntaf ei gynllun allgymorth sy’n cael ei ariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Cwblhaodd 17 o Lysgenhadon Mynydd a Gweundir eu sesiwn hyfforddi gyntaf ar fynydd Crug Hywel ger Crughywel, a chafodd plant ysgol lleol brofi’r mynyddoedd drostynt eu hunain fel rhan o ymgais i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r hyn sy’n arbennig am yr ardal.

Mae Cwrs deuddydd Llysgenhadon Mynydd a Gweundir yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth am yr ardal ac mae’n cynnwys pynciau fel rheoli rhedyn, adnewyddu mawndir a rheoli ymwelwyr. Mae’r rheiny sy’n cymryd rhan hefyd yn cael gwybodaeth am arferion ffermio lleol, daeareg, archeoleg a hanes ac maen nhw’n cael ymweld â’r mynyddoedd. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymysg pobl leol am y Mynyddoedd Duon a’r problemau sy’n wynebu’r ardal. Drwy ymgysylltu â’r diwydiant twristiaeth, gobaith y bartneriaeth yw gwella sut mae’r rhanbarth yn cael ei rheoli’n gynaliadwy yn y tymor hir.

Mae’r partneriaid hefyd wedi lansio rhaglen addysg a byddan nhw’n gweithio gyda 12 ysgol leol dros y 3 blynedd nesaf, gan ymweld â ffermydd a safleoedd lleol fel Penybegwn. Y gobaith yw ysbrydoli dros 300 o ddisgyblion i werthfawrogi a deall yr hyn sy’n arbennig am y Mynyddoedd Duon, sut mae ffermio’n bwysig ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, a beth allan nhw ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol. Bydd disgyblion ysgol hefyd yn dysgu sut mae ymwelwyr yn gallu cael effaith ar y tir ac yn dysgu am effeithiau newid hinsawdd.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

“Mae gan Bartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon sawl swyddogaeth a changen wahanol. Mae’r cwrs Llysgenhadon Mynydd a Gweundir yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan gael dealltwriaeth fanwl o’r ardal y gellir ei throsglwyddo i ymwelwyr; gobeithiwn y bydd y cwrs yn gwella dealltwriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth o anghenion rheolwyr tir a’r materion sy’n gysylltiedig â rheoli’r pwysau a achosir gan ymwelwyr.

Yn yr un modd, drwy fynd â phlant ysgol lleol i Benybegwn, mae ein Swyddogion Addysg yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol am faterion gwledig pwysig a hefyd yn eu hysbrydoli nhw i wneud gweithgareddau awyr agored sy’n allweddol i’w hiechyd corfforol a meddyliol.”

Ychwanegodd Phil Stocker, Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon:

“Mae gweld rhan bwysig hon o’r prosiect ar gychwyn yn wych. Mae gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y Mynyddoedd Duon ymysg oedolion a phlant, y rheoli manwl sydd yn yr ardal eiconig hon, a’r heriau a wynebwn, yn rhan sylfaenol o Bartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon. Mae hefyd yn galonogol gweld sut mae gwahanol bartneriaid yn cydweithio’n llwyddiannus er mwyn rhoi amrywiol rannau o’r prosiect ar waith.”

Daw Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon â ffermwyr a phorwyr sy’n byw ac yn rheoli da byw ar y Mynyddoedd Duon ynghyd i weithio gyda pherchnogion tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru sy’n cydweithio i reoli’r Mynyddoedd Duon. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

– DIWEDD –