Ymgynghoriad Cyhoeddus ‘Gwlad y Sgydau’

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar gymunedau lleol ‘Gwlad y Sgydau’, ynghyd ag unrhyw un arall sy’n poeni am yr ardal, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas ag adroddiad newydd sy’n bwriadu mynd i’r afael â’r materion rheoli traffig yn yr ardal.

Comisiynwyd adroddiad ‘Astudiaeth Traffig Ymwelwyr Gwlad y Sgydau’ gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ran partneriaeth Awdurdodau Lleol, Cyngor Cymuned Ystradfellte a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Transport Initiatives LLP a ffrwyth gwaith a wnaed dros y 12 mis diwethaf yw eu hadroddiad. Mae gweithdai cymunedol wedi’u cynnal sydd wedi galluogi pobl leol i ddweud eu dweud, nodi’r prif broblemau a ffurfio’r canlyniadau a’r atebion arfaethedig. Gwna’r adroddiad argymhellion a chynigion ac mae’n darparu rhaglen dros dro o fesurau y gallai’r Bartneriaeth eu rhoi ar waith o gael y cyllid angenrheidiol.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gymeradwyo i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddydd Gwener 2 Tachwedd 2018, bellach ar gael i gymunedau a phartïon cyfrannog i roi eu sylwadau terfynol cyn iddo gael ei gymeradwyo ym mis Chwefror 2019.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae ‘Gwlad y Sgydau’ yn cynnwys yr ardal o gwmpas triongl Pontneddfechan, Ystradfellte a Phenderyn ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd yn y Parc Cenedlaethol. Rydym yn ymwybodol o’r materion traffig yn yr ardal a thrwy weithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol, hoffwn geisio dod o hyd i atebion. Yn y tymor hir, mae angen i ni hefyd ddod o hyd i ffyrdd i ymwelwyr fwynhau’r Parc Cenedlaethol heb orfod defnyddio car. Mae’r adroddiad bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chroesawn safbwyntiau pobl leol.”

Gellir dod o hyd i’r adroddiad a rhoi sylwadau arno fan hyn:

Adroddiad

Sylwadau
reCAPTCHA is required.

Yr amserlen ar gyfer rhoi sylwadau yw o ddydd Iau 15 Tachwedd 2018 i ddydd Llun 7 Ionawr 2019, gan gau am ganol dydd.