Plannu’r hedyn i siarad

This image has an empty alt attribute; its file name is I-pledge-2-talk-006-1052x1024.jpg

Plannu’r hedyn ym meddyliau pobl i’w hannog i siarad am iechyd meddwl oedd gorchwyl y dydd i wirfoddolwyr a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eluned Morgan AC.

Addawodd Parc Gwledig yr Awdurdod, sef Craig y Nos, ei gefnogaeth yn lansiad ymgyrch #IPledge2Talk Eluned Morgan AC, y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r iaith Gymraeg. Mewn ymgais i annog unrhyw un sy’n dioddef o iechyd meddwl neu les emosiynol bydd clystyrau o flodau, yn amlygu hashnod ymgyrch #IPledge2Talk, yn ymddangos ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ardaloedd eraill ledled Cymru.

Ymwelodd y Gweinidog, ynghyd â chynrychiolwyr y Samariaid, Mind Ystradgynlais a grwpiau iechyd meddwl eraill, â’r Parc Gwledig i blannu’r hadau a fydd yn blodeuo’n glwstwr o flodau #IPledge2Talk, i fod fel nodyn atgoffa gweledol ei bod yn dda siarad ac ennill cefnogaeth. Gosodwyd plac arbennig hefyd ar fainc gymunedol gan Anthony Hunt, hyfforddai diweddaraf ‘Ewch i Fannau Brycheiniog’ yr Awdurdod.

Roedd y Gweinidog yn ffodus i ddal grŵp Heneiddio’n Egnïol Ystradgynlais a chael eu cefnogaeth i #IPledge2Talk.

Mae’r prosiect Heneiddio’n Egnïol yn cael ei ariannu gan Chwaraeon Cymru ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd y cyfranogwyr sy’n hunangyfeirio neu’r rhai sy’n cael eu hatgyfeirio gan y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) yn cyfarfod yn y Gelli Gandryll, y Fenni, Merthyr Tudful a Craig y Nos i ymuno â’r daith gerdded sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion.

Meddai: “Mae pob hunanladdiad yn drasiedi ac mae’n bwysig cofio bod sawl ymgais i gyflawni hunanladdiad y tu ôl i bob marwolaeth. Mae’r effaith ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn ddinistriol ac yn bellgyrhaeddol, hyd yn oed ymhell ar ôl i fywyd gael ei golli. Mae effeithiau cadarnhaol gweithgarwch awyr agored ar iechyd meddwl wedi’u dogfennu’n helaeth ac roedd yn wych cyfarfod â chyfranogwyr y grŵp Heneiddio’n Egnïol a chlywed sut mae rhaglen y Parc wedi eu helpu i oresgyn unigrwydd a phryder.

“Agwedd agored tuag at iechyd meddwl yw’r ffordd orau i helpu i atal hunanladdiad ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn rhan o’r sgwrs hon. Mae i fyny i bob un ohonom i ddechrau siarad – a dal ati i siarad! Rwy’n falch dros ben i lansio’r fenter hon yng Nghraig y Nos ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma am eu cefnogaeth barhaus!”

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Julian Atkins, fod yr Awdurdod yn ymroi i hybu’r manteision, o ran iechyd meddwl a lles emosiynol, o fynd am dro hwnt ac yma yng nghefn gwlad ac yn agos at natur.

“Mae’n greiddiol i’r hyn rydym ni’n ei wneud,” meddai. “Bydd cefnogi’r ymgyrch hon yn dod â’r mater i sylw ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol, cymunedau lleol a’n staff. Ein nod ni yw gweithio’n gyfannol gyda phartneriaid yn y sector Elusennol a’r Byrddau Iechyd i ddatblygu prosiectau fel prosiectau Heneiddio’n Egnïol a Chamau Bach. Mae’r ddau brosiect hyn yn dangos pa mor hygyrch yw’r Parc Cenedlaethol drwy gyfrwng trafnidiaeth gyhoeddus i bobl sydd ag ystod o anghenion corfforol, meddyliol neu emosiynol.

“Drwy gymryd camau mor fychan â phlannu clwstwr o flodau, gellir gwneud naid enfawr ymlaen mewn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma.”