Pleidleisiwch nawr dros Lysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir!

Mae prosiect Llysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Academi Cynaliadwy yng nghategori Hyfforddiant neu Addysg Gynaliadwy. Bydd y bleidlais gyhoeddus yn cyfrif tuag at 60% o’r sgôr gyffredinol, felly mae pob pleidlais yn cyfrif! Bydd y bleidlais yn cau ar 6 Tachwedd.

 ‘Mae Gwobrau’r Academi Cynaliadwy’n dathlu rhagoriaeth cynaliadwyedd, arloesedd ac arweinyddiaeth o bob rhan o Gymru. Mae’r Gwobrau’n cydnabod y bobl, y prosiectau a’r mentrau gwych sy’n cyfrannu tuag at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol a’r pum Dull o Weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.’

Datblygwyd y prosiect Llysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir gan Bartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon ar y cyd â staff o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o fewn thema Rheoli Ymwelwyr y prosiect. Mae’r hyfforddiant yn cyd-fynd â chasgliad o gyrsiau Llysgennad eraill sy’n cael eu cynnal yn llwyddiannus gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Nod prosiect Llysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir yw ymgysylltu a hyfforddi pobl o fusnesau twristiaeth lleol, gan eu helpu i drosglwyddo negeseuon am gynaliadwyedd i’w cwsmeriaid, fel y gallent yn eu tro ymweld ag ardal y Mynyddoedd Duon a’u mwynhau yn gyfrifol. Dyma fenter arloesol sy’n dod â busnesau lleol, porwyr, perchnogion tir a chyrff rheoleiddiol ynghyd er mwyn deall materion cynaliadwyedd a chydweithio i amddiffyn cynaliadwyedd y Mynyddoedd Duon.

Hyd yma, mae’r prosiect wedi gwneud cynnydd ac wedi cael effaith wych. Mae cyfanswm o 56 Llysgennad wedi’u hyfforddi. Cyflwynwyd yr hyfforddiant i dri grŵp drwy raglen hyfforddi ddeuddydd bwrpasol.

Dywedodd Phil Stocker, Cadeirydd PDTMD, fod y rhaglen llysgenhadon yn helpu i roi’r offer a’r wybodaeth i fusnesau lleol gyfathrebu negeseuon ynghylch rhinweddau arbennig y Mynyddoedd Duon a’r hyn y gall ymwelwyr ei wneud i’n helpu i ofalu am yr ardal i bawb ei mwynhau.

Dywedodd: “Dim ond trwy gydweithio y gellir sicrhau cydbwysedd sy’n bodloni anghenion porwyr, darparwyr twristiaeth a pherchnogion tir, ac amddiffyn y dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ar yr un pryd.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yn Stadiwm y Principality ar 28 Tachwedd.

I bleidleisio dros Lysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir – Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, ewch i http://www.sustainableacademy.wales/sustainable-education-or-training-2019/

Ar hyn o bryd mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd duon yn cyflawni prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy gwerth £1m. Mae’r prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.