Awst 2020

Llythyr agored yn annog gwersyllwyr i barchu amgylchedd Cymru y penwythnos Gŵyl Banc hwn

Mae llythyr agored a lofnodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac RSPB Cymru yn tynnu sylw at y niwed y gall gwersylla anghyfreithlon ei wneud i'r amgylchedd lleol a'r cymunedau cyfagos ac yn…

Y cloi mawr yn ysbrydoli awduron Bannau Brycheiniog

A ninnau newydd gael gwledd o ddiwylliant a chystadlu yn yr Eisteddfod Amgen, rydym ym Mharc Cenedlaethol y Bannau wedi bod yn dathlu’n diwylliant hefyd drwy drefnu cystadleuaeth ysgrifennu yn y Gymraeg cyntaf y Parc.   Cawsom fodd i fyw wrth ddarllen cynigion cystadleuaeth ysgrifennu yn y Gymraeg cyntaf y Parc. Cyfle i bobl fynegi’r hyn sydd yn bwysig iddynt am eu milltir sgwâr o dan y teitl ‘Y Bannau a finnau’ oedd hwn. Cefnlen y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, oedd y cloi mawr a phwysigrwydd ‘y pethau bychain’ a lleol a gafodd ei ategu gan y sefyllfa yma. Darnau amrywiol tu hwnt, llawn gwybodaeth ddifyr ac angerdd oedd yr arlwy.   Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddiolch i bob un a gystadlodd oherwydd hebddynt hwy ni fuasai cystadleuaeth wedi bod. Roedd safon pob darn yn arbennig ond roedd rhaid dyfarnu pwy oedd am ennill a dod yn ail ac yn drydydd ym mhob categori: dros 25 mlwydd, dysgwr, 11 – 18 ac o dan 11 mlwydd oed.   Ffocws ysgrif Bethan Price o Bont Senni a ddaeth yn fuddugol yn y categori dros 25 mlwydd oed, oedd coeden yw hynafol ac enwog mynwent eglwys Defynnog. Iddi hi mae’r lle’n gysegredig, a bu’n ‘gysgod i genedl’.  Fel cyd-ddigwyddiad brawd Bethan, Rhys Jones ddaeth yn ail gyda’i ‘Gywydd i'r Copaon’ sy’n plethu byd natur a thirweddau’r Bannau â’i ddaliadau Cristionogol. Yn drydydd oedd Katie Jones o Langynidr a ysgrifennodd ysgrif fyrlymus sy’n cyfleu ei chariad at ei bro o amgylch Llyn Syfaddan a’r Mynyddoedd Duon.  Rachel Bedwin o Orpington, Kent…

Gormod o ymwelwyr yn tyrru i leoliad prydferth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae ardal boblogaidd Gwlad y Rhaeadrau ym Mharc Bannau Brycheiniog  yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r niferoedd uchel o ymwelwyr sy’n dychwelyd wedi’r cyfnod clo ac sy’n achosi i feysydd parcio a llwybrau fethu â dygymod â’r niferoedd uchel o gerbydau a phobl.  Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog…

Cyfarfod Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol trwy fideo gynadledda am y tro cyntaf

Am y tro cyntaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol, roedd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei gynnal trwy fideo gynadledda ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2020.   Oherwydd ffyrdd newydd o weithio, gofynnwyd i aelodau gynnig eu hunain am swydd eleni.  Os mai dim ond un aelod…