Cyfarfod Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol trwy fideo gynadledda am y tro cyntaf

Am y tro cyntaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol, roedd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei gynnal trwy fideo gynadledda ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2020.  

Oherwydd ffyrdd newydd o weithio, gofynnwyd i aelodau gynnig eu hunain am swydd eleni.  Os mai dim ond un aelod oedd yn cynnig am swydd, ni chynhaliwyd pleidlais.

Penodwyd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe (aelod a benodwyd gan Gyngor Sir Powys) yn Gadeirydd yr Awdurdod am yr ail flwyddyn (yn ddiwrthwynebiad) ac aelod newydd Liz Davies (aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru) yn Ddirprwy Gadeirydd.

Penodwyd i swyddi allweddol eraill yn y cyfarfod, gan gynnwys ail ethol Julian Stedman yn Gadeirydd, ac ail ethol Edwin Roderick yn Ddirprwy Gadeirydd, y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy.

 Meddai Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, ar ôl cael ei ail ethol;

“Mae’n fraint ac anrhydedd cael fy mhenodi’n gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ail dymor.  Rwyf wedi bod yn meddwl am y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n rhaid dweud na fu ei thebyg.    Fy mlaenoriaethau yn y dyfodol fydd gweithio gyda’n holl aelodau, swyddogion a gwirfoddolwyr i ddarparu Parc Cenedlaethol er budd ein trigolion, ymwelwyr a Chymru.   Wrth i ni symud ymlaen, rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’n Cynghorau Cymuned, Awdurdodau Lleol, sefydliadau partner a’r Llywodraeth Genedlaethol.  Allwn ni ddim, ar pennau’n hunain fel Awdurdod y Parc Cenedlaethol, wneud yr holl waith y mae’n rhaid i ni ei wneud, mae’n rhaid i ni hefyd wrth ymdrechion ar y cyd pob Partner, Aelodau, swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau.

 Etholwyd y Cynghorydd Andrew James yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu a’r Cynghorydd Ann Webb yn Ddirprwy.   Y Cynghorydd Michael Jones yw Cadeirydd pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyda’r Cynghorydd Malcolm Colbran yn Ddirprwy.

Doedd dim newid i’r Fforwm Polisi, gyda Mr James Marsden yn Gadeirydd a’r Cynghorydd Graham Thomas yn Ddirprwy Gadeirydd.

Meddai Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Fe hoffwn i longyfarch pawb o’r Aelodau sydd wedi eu hethol neu eu hail ethol i’r swyddi pwysig hyn yn yr Awdurdod.  Mae ein Parc Cenedlaethol yn wynebu cyfnod cyfnewidiol ac ansicr ac rwy’n edrych ymlaen, yn ystod y deuddeg mis nesaf, at weithio gyda phawb sydd wedi’u penodi i wneud yn siŵr y bydd ein Parc Cenedlaethol yn adfer ac yn cefnogi’n cymunedau”.

I weld recordiad o’r Cyfarfod Blynyddol ewch i https://breconbeacons.public-i.tv/core/portal/home ac i weld manylion pellach strwythur ac aelodaeth y pwyllgorau ewch i www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/aelodau-pwyllgorau/

DIWEDD