Y cloi mawr yn ysbrydoli awduron Bannau Brycheiniog

A ninnau newydd gael gwledd o ddiwylliant a chystadlu yn yr Eisteddfod Amgen, rydym ym Mharc Cenedlaethol y Bannau wedi bod yn dathlu’n diwylliant hefyd drwy drefnu cystadleuaeth ysgrifennu yn y Gymraeg cyntaf y Parc 

Cawsom fodd i fyw wrth ddarllen cynigion cystadleuaeth ysgrifennu yn y Gymraeg cyntaf y Parc. Cyfle i bobl fynegi’r hyn sydd yn bwysig iddynt am eu milltir sgwâr o dan y teitl ‘Y Bannau a finnau’ oedd hwn. Cefnlen y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, oedd y cloi mawr a phwysigrwydd ‘y pethau bychain’ a lleol a gafodd ei ategu gan y sefyllfa yma. Darnau amrywiol tu hwnt, llawn gwybodaeth ddifyr ac angerdd oedd yr arlwy.  

Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddiolch i bob un a gystadlodd oherwydd hebddynt hwy ni fuasai cystadleuaeth wedi bod. Roedd safon pob darn yn arbennig ond roedd rhaid dyfarnu pwy oedd am ennill a dod yn ail ac yn drydydd ym mhob categori: dros 25 mlwydd, dysgwr, 11 – 18 ac o dan 11 mlwydd oed.  

Ffocws ysgrif Bethan Price o Bont Senni a ddaeth yn fuddugol yn y categori dros 25 mlwydd oed, oedd coeden yw hynafol ac enwog mynwent eglwys Defynnog. Iddi hi mae’r lle’n gysegredig, a bu’n ‘gysgod i genedl’.  Fel cyd-ddigwyddiad brawd Bethan, Rhys Jones ddaeth yn ail gyda’i ‘Gywydd i’r Copaon’ sy’n plethu byd natur a thirweddau’r Bannau â’i ddaliadau Cristionogol. Yn drydydd oedd Katie Jones o Langynidr a ysgrifennodd ysgrif fyrlymus sy’n cyfleu ei chariad at ei bro o amgylch Llyn Syfaddan a’r Mynyddoedd Duon. 

Rachel Bedwin o Orpington, Kent a ddaeth yn fuddugol yn y categori ‘dysgwr’.  Hiraethu am gael bod allan yn yr awyr agored unwaith eto yn dringo ac ‘anadlu’r mynyddoedd’ a mwynhau’r golygfeydd oedd ei hymateb hithau. Gweld gorwelion yn naturiol ac yn ffigurol oedd Jane Ricketts Hein o Clas-ar-wy a ddaeth yn ail. Disgrifiodd ei phrofiad a’i phleser o fyw ynghanol y Bannau yn nhermau hanes, chwedloniaeth, byd natur a daearyddiaeth.  Cawsom gerdd am y profiad o fyw ar stad o dai ar ymylon y Fenni o’i gymharu gyda mawredd a phrydferthwch y Parc Cenedlaethol gan Simon Jones a ddaeth yn drydydd, yn yr un categori. 

Cafodd y beirniaid fwynhad arbennig o ddarllen darnau’r awduron ifainc. Cerdd rydd ‘Camlas’ gan Elena Puw a ddaeth yn fuddugol yn y categori 11 I 18 mlwydd oed. Cerdd ddarluniadol yn llawn o ddelweddau mewn geiriau  oedd hon. Yn ail ddaeth ysgrif hyfryd am Gwm Senni gan Beca Hiscocks, sy’n dadlennu ei chariad at y cwm. Dwy englyn crwn a chywir yn dathlu ‘Llyn y Fan’ gan Elena Puw a enillodd y drydedd wobr. Roedd ei brawd Iolo yn llawn haeddu’r wobr gyntaf yn y categori o dan 11 mlwydd oed gyda’i gerdd ddigri am hwyaden yn clwydo ar do cwch ar gamlas Aberhonddu. 

Meddai’r Cyng Edwin Roderick, pencampwr yr iaith Gymraeg Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Hoffwn ddiolch i bawb a gystadlodd a llongyfarch y rheiny a enillodd gwobr, sef taleb i’w wario yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol. Mae gennym gymaint i’w ddathlu yma ym Mharc Cenedlaethol y Bannau o ran y dirwedd, byd natur, hanes a diwylliant ac mae’n fuddiol cael gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg”. 

Meddai Siân Shakespear, Swyddog Iaith yr Awdurdod: “Mae hi wedi bod yn bleser pur beirniadu’r cynigion hyn gyda fy nghyd-weithwyr a thrwy hyn hel storfa o ddisgrifiadau bywiog am y Parc a’i chorneli amrywiol. Dyma edrych ymlaen at gynigion cystadleuaeth 2021!”