Cludiant Parc Gwledig Craig y Nos yn mynd yn wyrdd

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael ei fan drydan gyntaf. Mae’r fan, Renault Kangoo ZE33, ym Mharc Gwledig Craig y Nos, 40 erw o erddi wedi’u tirlunio a oedd yn gartref ar un adeg i’r soprano operatig enwog, Adelina Patti.

Bydd y cerbyd ar gael i bawb sydd â rhan mewn rheoli’r safle ac i’r tîm addysg wrth ymestyn allan ac arddangos gwaith y Parc Cenedlaethol i ysgolion a chymunedau’r ardal.

Wrth benderfynu pa ysgrifen ddylai fod ar y fan, roedd y tîm Addysg yn awyddus iawn y byddai’n dweud y stori sut mae’r fan yn cael ei ‘nerthu gan yr haul’ a’i defnyddio fel adnodd dysgu symudol.

Mae’r tîm addysg y Parc Cenedlaethol wrth eu bodd yn gyrru’r Cerbyd Trydan i ymestyn allan ac i gysylltu â phobl ifanc. “Rydyn yn falch iawn o sut mae’r graffeg bywiog yn ein helpu i ddangos mai ynni’r haul sy’n ein gyrru i gyrraedd ysgolion, a hefyd yn dangos i bawb ein bod ni, yn y Parc Cenedlaethol, yn gweithio at ddyfodol mwy cynaliadwy! Cadwch lygad barcud amdanom a cofiwch godi eich llaw os byddwch yn ein gweld yn eich ardal chi!”

Mae’r fan hon yn ymuno â’r nifer cynyddol o gerbydau cwbl drydanol yn fflyd yr Awdurdod sy’n helpu i leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil.    

Meddai Kevin Booker Swyddog Systemau TG a’r Fflyd, “Bydd y cerbyd hwn yn helpu’r Awdurdod ymhellach i ostwng ei ôl troed carbon ac i fanteisio ar yr ynni adnweyddol sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle. Mae’r Kangoo yn gallu teithio ymhell ar ôl ei gwefru, ac mae’n gerbyd hyblyg a delfrydol ar gyfer gwaith ymestyn allan, un ai fel fan fawr neu fel cerbyd yn eistedd 5 o bobl.