Penodi Prif Weithredwr newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o gyhoeddi eu bod wedi penodi Catherine Mealing Jones fel y Prif Weithredwr newydd, bydd yn dechrau ar ei swydd fis Gorffennaf 2021.

Ar hyn o bryd mae Catherine yn Gyfarwyddwr Tŵf yn Asiantaeth Ofod y DU ble mae wedi bod yn arwain strategaeth, polisi a rhaglenni i yrru twf economaidd yn y sector ofod ac yn yr economi ehangach, gan ddod â’r gofod i strategaethau datblygu economaidd lleol a gyrru defnydd newydd arloesol o dechnoleg, data a rhaglenni’r gofod.

Mae gan Catherine brofiad cryf o weithio ar lefel Bwrdd, o ffurfio cyfeiriad strategol, datblygu polisi, darparu prosiectau, ffurfio partneriaethau â dylanwad, datblygu timau a chyrraedd amcanion heriol.  

Pleidleisiodd aelodau’r Awdurdod ar ôl ymgyrch recriwtio helaeth, a gynhaliwyd gan GatenbySanderson, a phroses ddewis hynod gystadleuol a oedd yn cynnwys rhai ymgeiswyr cryf iawn. 

Meddai Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Ar ran Aelodau a staff, rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi penodi Catherine Mealing-Jones yn Brif Weithredwr newydd y Parc Cenedlaethol.  Rwy’n hyderus y bydd ei harweiniad a’i gweledigaeth ar gyfer dyfodol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwireddu’r nodau a’r amcanion y mae ein cymunedau’n eu haeddu ac yn eu disgwyl gennym ni.” 

Ac meddai Catherine Mealing-Jones, y Prif Weithredwr (darpar) “Rwy’n hynod falch o fod yn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fis Gorffennaf, mae’r weledigaeth o weithio gydag Aelodau, staff, gwirfoddolwyr a’n partneriaid i stiwardio a datblygu’r gwerth positif unigryw y gall y lle arbennig hwn ddod i fywyd lleol a chenedlaethol yn wirioneddol ysbrydoledig.  Prin y gallaf i ddisgwyl cael dechrau gweithio, i wneud y gorau o’r cyfleoedd diamheuol i wireddu’r potensial llawn sydd gan y Parc i’w gynnig i gyflwyno canlyniadau a fydd yn effeithio’n bositif ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol”.