Clod mawr i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Ngwobrau Fleet News

Yr wythnos hon, yng ngwobrau Fleet News oedd yn cael ei gynnal yn Ascot, roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y rhestr fer am dair gwobr.   Dim ond mewn dau gategori roedd yr Awdurdod wedi ymgeisio’n wreiddiol, Rheolwr Fflyd y Flwyddyn ac Arloesedd Amgylcheddol, ond gwnaeth cyfweliad Kevin Booker gymaint o argraff ar y beirniaid nes i’r Awdurdod gael ei rhoi ar y rhestr fer hefyd yn y categori Fflyd y Flwyddyn hyd at 1,000 o gerbydau.

Roedd hyd yn oed yn fwy annisgwyl cipio’r wobr clod mawr yn y categori Fflyd y Flwyddyn hyd at 1000 o gerbydau, a hynny yn erbyn cwmnïau mawr fel yr enillwyr Auto Windscreens, gan mai dim ond 25 cerbyd sydd gan yr Awdurdod!

Meddai Kevin Booker, Rheolwr Systemau TG a’r Fflyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Roedd yn fraint cael fy nghynnwys mewn digwyddiad sy’n denu cymaint o sylw yn y diwydiant fflyd.   Mae cael cymaint o gydnabyddiaeth, yn bersonol ac i’ch sefydliad, yn beth arbennig iawn, ac mae ennill clod mawr mewn categori nad oedden ni hyd yn oed wedi ymgeisio ynddo’n wreiddiol, yn gryn syndod.   Mae ein fflyd ni’n bitw o gymharu â’r rhai eraill oedd wedi’u henwebu ac â chwmnïau eraill oedd yn cymryd rhan yn y gwobrau.   Mae cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau hyn yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.

Mae gwobrau Fleet News yn cael eu cynnal bob blwyddyn, gan amlygu’r gorau o fflydoedd, cyflenwyr a gweithgynhyrchwyr yn y Deyrnas Unedig.  Ar ôl ymgeisio, mae’n cymryd amser i gasglu’r wybodaeth ac, os bydd y cais cyntaf yn llwyddiannus, i baratoi am gyfweliad 30 munud o flaen panel o feirniaid.

Meddai Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Mae’n wych gweld gwaith caled Kevin yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael ei wobrwyo a’i gydnabod yn y gwobrau hyn.  Mae Kevin wedi gwneud yn siŵr fod ein fflyd mor wyrdd â phosibl, gyda 60% o gerbydau’r Fflyd yn rhai trydan erbyn hyn.  Mae wastad yn chwilio am ffyrdd arloesol o leihau allyriadau, gan weithio at fflyd heb allyriadau erbyn 2025.