Arolwg Ymwelwyr Bro’r Sgydau

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Cymuned Ystradfellte a Pontneddfechan yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ymweld, yn ymweld neu sy’n byw ym Mro’r Sgydau i gwblhau arolwg ymwelwyr newydd.  Mae’r arolwg, i’w chynnal yn ystod y flwyddyn nesaf, yn gobeithio adeiladu ar y gwaith presennol o liniaru pwysau ymwelwyr a chael gwell dealltwriaeth o anghenion a gofynion y rhai sy’n byw yn yr ardal a’r ymwelwyr.  

Llwyddodd y cwmni ymchwil o Gaerdydd Strategic Research and Insight (SR&I), i ennill y contract yr arolwg flwyddyn o hyd gan fod ganddyn nhw brofiad helaeth a gwybodaeth leol dda.  Bydd y gwaith o arolygu ar y ddaear yn cychwyn ar y penwythnos Gŵyl y Banc hwn a bydd arolwg ar lein yn cael ei lansio hefyd i bobl ei gwblhau ar ôl ymweld.  Bydd cyfwelwyr o SR&I yn ac o amgylch meysydd parcio prysur Bro’r Sgydau, fe fyddan nhw’n hawdd eu hadnabod ac fe fyddan nhw hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw at y canllawiau diogelwch Covid.  Mae’r Awdurdod a’r Cyngor hefyd yn gofyn i ddarparwyr llety a busnesau lleol hyrwyddo’r arolwg i’w cwsmeriaid, gan fod yn rhaid casglu data o sector mor eang â phosibl o’r cyhoedd.

Meddai Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,
“Mae Bro’r Sgydau wedi dod yn un o’n hatyniadau mwyaf poblogaidd yn y Parc Cenedlaethol ac wedi denu mwy o ymwelwyr nac erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i liniaru rhai o’r pwysau parcio ac ymwelwyr.  Bydd yr wybodaeth a fydd yn cael ei gasglu gan yr arolwg newydd yn ein helpu i ganfod beth ddylai ddigwydd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr fod gan Fro’r Sgydau ddyfodol cynaliadwy a fydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Ychwanegodd Llian Cornish, Cadeirydd Cyngor Cymuned Ystradfellte a Pontneddfechan,
“Bydd yr arolwg ymwelwyr yn amhrisiadwy wrth gyfeirio prosiectau’r sefydliad cymunedol newydd, Bro’r Sgydau Cymru, yn y dyfodol.  Amcanion y sefydliad yw nodi prosiectau a fydd o fudd i drigolion a sut i gadw’r arian y mae ymwelwyr yn ei wario yn yr ardal i’w fuddsoddi’n ôl yn y gymuned.”

Os ydych chi wedi ymweld, neu yn ymweld, â Bro’r Sgydau rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, neu os ydych chi’n byw yn yr ardal, cwblhewch Arolwg Ymwelwyr Bro’r Sgydau 2021 -22, un ai ar eich ymweliad neu ar lein ar ôl hynny ar http://bit.ly/waterfallcountry

DIWEDD