Cafodd Kevin Booker o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei enwi’n Archseren Eco yng Ngwobrau mawreddog Fleet World Prydain Fawr 2021.
Gyda phanel o farnwyr arbenigol o olygyddion Grŵp Fleet World, mae’r gwobrau’n cynnwys 38 o gategorïau sy’n cydnabod y dyfeisiadau mwyaf diweddar. Mae’r gwobrau hefyd yn cynnwys gwaith gyda chyflenwyr gwasanaeth i helpu i redeg eu fflyd yn ddiogelach, yn wyrddach a yn fwy effeithlon.
Mae’r gwobrau hefyd yn dathlu rheolwyr fflyd sydd ar flaen eu sector am eu gwaith ar ddatblygu strategaethau, a hefyd sy’n paratoi’r ceir a’r faniau sy’n arwain y ffordd ym meysydd diogelwch i effeithlonrwydd tanwydd – gan gynnwys y cerbydau trydan diweddaraf a’r rhai sydd wedi’u trydaneiddio.
Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd golygydd Fleet World, Martyn Collins: “Er gwaethaf gorfod wynebu nifer dirifedi o heriau dros y 12 mis diwethaf, mae sector y fflyd wedi parhau i ddangos sut y mae ar blaen o ran arloesedd yn y DU, yn cadw busnesau i fynd yn ystod y cyfnodau clo a chwarae rôl allweddol yn y cynlluniau i ‘adeiladu’n ôl yn well’.
“Mae gwaith y diwydiant ar drydaneiddio – o gefnogi gwasanaethau i’r cerbydau eu hunain – hefyd yn rhagorol wrth i’r DU ddal ar y llwybr i sero net. Rwy’n llongyfarch yr holl enillwyr.”
Y llynedd enillodd Kevin y wobr ‘Archseren Ariannol’ – y dewin ariannol sydd wedi datblygu’r strategaeth fwyaf clyfar a mwyaf arloesol ar gyfer rhedeg fflyd yn gost effeithlon, yn yr un achlysur.
Meddai Kevin Booker, “mae’n fraint wirioneddol cael fy nghydnabod yn y gwobrau hyn, am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr mai gennym ni y mae’r fflyd wyrddaf posibl. Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu fflyd o 25 o gerbydau ar gyfer wardeiniaid a staff. Mae 100 y cant o gerbydau’r fflyd erbyn hyn yn gwbl drydanol neu’n hybrid plygio i mewn. Ein nod yw fod yn cyrraedd gollyngiadau sero erbyn 2025. Cyn bo hir, bydd ddau dractor trydan yn unig yn cyrraedd ein canolfannau ymwelwyr, ar gyfer cynnal tiroedd, a byddwn hefyd yn newid offer sy’n defnyddio tanwydd gyda rhai y gellir eu hail wefru, ble bo’n bosibl.”
Yn gweithio gyda Pod Point, mae’r Awdurdod wedi cyflwyno mannau gwefru hygyrch i’r cyhoedd ymysg ei adnoddau. Mae yna 17 o fannau gwefru eisoes wedi’u gosod a bwriedir gosod rhagor 2021.