Ap Geodeithiau Newydd ar gyfer Geobarc Fforest Fawr

Mae ap newydd Geodeithiau, sy’n cynnwys pedair taith gerdded yn Geoparc Byd-eang UNESCO
y Fforest Fawr ar gael erbyn hyn i’w lawr lwytho o Google Play a’r App Store. Mae’r Ap yn gyfle i ddefnyddwyr darganfod y Geobarc sy’n cynnwys hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 
Gallwch llawrlwytho’r Ap am ddim o Google Play neu’r App Store (chwiliwch am Geotours).

Geoparc Byd Eang UNESCO Fforest Fawr yw un o ddim ond dau geobarc yng Nghymru, a 169 o geobarciau byd eang, sydd wedi’u dynodi nid yn unig am eu daeareg ond am eu hanes, archeoleg a’r bywyd naturiol a dynol o fewn eu ffiniau. Mae yn Fforest Fawr werth dros 470 o filiynau o flynyddoedd o storïau i’w hadrodd ac mae’r Ap Geodeithiau’n cipio rhai o’r goreuon. Cewch glywed am Gribarth a Phenwyllt a sut mae cloddio am gerrig wedi ffurfio’r tirwedd, am Garn Goch, caer o Oes yr Haearn, neu Fynydd Illtud, gyda’i olygfeydd panoramig o’r Geobarc ac o’r Parc Cenedlaethol.  

Mae’r Geodeithiau wedi’i ddylunio ar gyfer teuluoedd gyda phlant hŷn ac oedolion sy’n chwilio am gyflwyniad i’r Geobarc, gyda phob un yn eich arwain ar deithiau sy’n cymryd tua 2-3 awr i’w cwblhau. Mae cyfan o’r pedair Geodeithiau yn Fforest Fawr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cynnwys lluniau o’r awyr , lluniau a fideos ysblennydd gan Neil Mansfield o Landscapes Uncovered a Huw James Media. 

Meddai Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc, a ddyfeisiodd y pedair Geodaith: ‘Bydd y pedair Geodaith newydd yn gyfle i’n cymunedau lleol a’n hymwelwyr fynd ar deithiau hunain-arwain i rai o’r lleoliadau mwyaf cyfareddol yng Ngeobarc Fforest Fawr. Ac i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu ymweld, mae’r Ap yn cynnig cyfle i gael taith rithiol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb sy’n llawrlwytho’r Ap yn eu mwynhau. 

Cafodd yr Ap Geodeithiau ei ariannu gan Geobarciau’r Iwerydd, prosiect Interreg yr Undeb Ewropeaidd roedd Fforest Fawr yn rhan ohono. Mae’r Ap yn cynnwys deg Geoparc arall yn Ardal yr Iwerydd sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud  Llwybr Geodwristiaeth yr Iwerydd Ewrop. 

Ewch at www.breconbeacons.org/cy/pethau-iw-gwneud/atyniadau/natural-attractions/fforest-fawr-geopark/geodeithiau-geoparc am ragor o wybodaeth. 

DIWEDD