Geobarc Fforest Fawr yn croesawu gwerthuswyr UNESCO

Mae Geobarc Byd-eang UNESCO, Fforest Fawr, yn croesawu dau werthuswr UNESCO wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith o ailddilysu’r ardal.   Dros dri diwrnod, bydd y gwerthuswyr yn archwilio’r Geobarc, sy’n ymestyn dros hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol, gan gasglu tystiolaeth i asesu a yw’n dal i gyfarfod meini prawf ei ddynodi’n Geobarc Byd-eang UNESCO.

Mae Geobarc Byd-eang Unesco Fforest Fawr yn un o deulu o 169 o Geobarciau dros y byd i gyd, gydag 8 yn y DU.  Mae pob un wedi’u dynodi ac yn cael eu dathlu nid yn unig am eu creigiau a’u daeareg ond hefyd am eu hanes, eu harcheoleg ac am y bywydau naturiol a dynol o fewn eu ffiniau.  

Bydd rhaglen brysur y gwerthuswyr dros y cyfnod yn cynnwys ymweld â safleoedd allweddol y Fforest Fawr, gan gynnwys Pwynt Darganfod newydd y Geobarc ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Storey Arms a choridor yr A470.    Bydd mannau eraill ar eu taith yn cynnwys canolfannau croeso a gwybodaeth, canolfannau cymdeithasol, paneli cyfeiriadu a safleoedd geolwybrau.  Bydd cyfle hefyd i gyfarfod Llysgenhadon y Geobarc, busnesau, aelodau o grŵp rheoli’r Geobarc a swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol a sefydliadau partner.

Ar ôl ymweliad ailwerthuso, gallai un o dri o ‘gardiau’ gael eu dyfarnu i Geobarciau Byd-eang UNESCO: cerdyn gwyrdd yw’r un gorau, mae’n gwarantu parhad dynodiad UNESCO am bedair blynedd pellach.   Daw cerdyn melyn gydag argymhelliad i weithredu o fewn dwy flynedd, pan gynhelir gwerthusiad arall, ac mae cerdyn coch yn dangos fod y dynodiad mewn perygl o gael ei golli.

Meddai Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyfarwyddwr y Geobarc;
“Rydym yn falch i croesawu’r ddau werthuswr ar eu hymweliad ailddilysu ein Geobarc Byd-eang UNESCO yr wythnos hon.  Mae dynodiad UNESCO’n arwyddocâd mawr i’r Parc Cenedlaethol, ac yn rhoi cydnabyddiaeth bwysig bellach i’n tirwedd, i’n pobl, i’n treftadaeth a’n diwylliant. 

Ychwanegodd Alan Bowring, Swyddog Datblygu Geobarc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr;
“Mae wedi bod yn her paratoi ar gyfer ymweliad ailddilysu yn ystod pandemig byd-eang, ond mae cymaint o bobl wedi dangos eu cefnogaeth i Fforest Fawr.  Ein cymunedau, partneriaid, llysgenhadon a staff; rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw i gyd ac yn gobeithio cael canlyniad a fydd yn adlewyruchu’n bositif eu holl waith caled a’u cefnogaeth.