Tref yn y Parc Cenedlaethol yn dathlu tywyswyr twristiaeth swyddogol sydd newydd gymhwyso

Mae Aberhonddu yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach yn gartref i grŵp o dywyswyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbenigol a sy’n barod i rannu treftadaeth gyfoethog a straeon cudd y dref. O’r 13 o gyfranogwyr a ddechreuodd ar gwrs Tywyswyr Twristiaeth Swyddogol Aberhonddu, mae 10 wedi cymhwyso fel Tywyswyr Cadeirlan Aberhonddu a’r Dref, tra bod dau wedi ennill achrediadau fel Tywyswyr Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Roedd y cwrs 12 wythnos, a gyflwynwyd gan hyfforddwyr o Gymdeithas Dywyswyr Croeso Swyddogol Cymru, yn cynnwys sesiynau wythnosol ochr yn ochr ag ymchwil annibynnol helaeth. Datblygodd y cyfranogwyr bortffolio manwl ar hanes, tirnodau a ffigurau nodedig Aberhonddu. Dilynwyd yr hyfforddiant at safonau ansawdd a gydnabyddir yn fyd-eang (BSI EN 15565), gan roi sgiliau i arwain teithiau deniadol, addysgiadol a diogel i’r tywyswyr.

Wrth siarad am y llwyddiant, dywedodd Carol Williams Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gefnogodd y Tywyswyr yn ystod eu hyfforddiant:

“Rydym yn falch iawn o groesawu’r grŵp talentog hwn o dywyswyr sy’n dod ag angerdd, gwybodaeth a sgiliau unigryw i’w teithiau. Bydd eu gwaith nid yn unig yn gwella profiadau ymwelwyr ond hefyd yn helpu i ddatgelu’r straeon a’r dreftadaeth gudd sy’n gwneud Aberhonddu, a’r Parc Cenedlaethol mor arbennig.”

Mae’r tywyswyr newydd gymhwyso, a dderbyniodd fathodynnau gwyn a thystysgrifau gan Gymdeithas Dywyswyr Twristiaeth Swyddogol Cymru, yn grŵp amrywiol gyda thalentau a chefndiroedd unigryw. Yn eu plith mae cyn-Beefeater, hanesydd, athrawon, a tywyswyr Cymraeg. Bydd y teithiau yn arddangos lleoliadau allweddol fel Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Amgueddfa Gatrawd Frenhinol Cymru, Y Gaer, a trysorau llai adnabyddus, gan ddod â straeon hanesyddol Aberhonddu yn fyw.

Roedd pob un o’r tywyswyr yn rhannu’r un teimladau, gydag un ohonynt yn dweud –

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn brofiad gwych. Nid yn unig yr ydym wedi ennill cyfoeth o wybodaeth am Aberhonddu, tref sy’n llawn hanes yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond rydym hefyd wedi dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd. Rydym wedi adeiladu rhwydwaith cryf o ffrindiau a chyd-dywyswyr, pob un yn angerddol am rannu straeon unigryw Aberhonddu gydag ymwelwyr.”

Mae’r fenter hon, a gefnogir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cyngor Tref Aberhonddu, Eglwys Gadeiriol Aberhonddu a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog, yn sicr yn mynd i wella profiadau ymwelwyr wrth gefnogi’r gymuned leol.

I archebu tywysydd, ewch i: www.breconofficialtownguides.org

DIWEDD