Gweithio mewn Partneriaeth

Mae cymuned amrywiol, fyw a gweithgar yn economaidd yn hanfodol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth agos â chyrff cyhoeddus a phreifat i helpu diwydiannau fel ffermio a thwristiaeth i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy sy’n diogelu ac yn gwella’r rhinweddau arbennig y dynodwyd y Parc Cenedlaethol o’u herwydd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi tirfeddiannwyr a rheolwyr, ein busnesau twristiaeth lleol, ysgolion, busnesau a chymunedau’r Parc Cenedlaethol.