Mae’r ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor o 16 Mawrth 2026. Mae Blwyddyn 2 y cynllun yn dechrau ar 1 Ebrill 2026.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd ar 1 Ebrill 2025 ac a fydd yn parhau hyd at fis Mawrth 2028.
Mae’n cefnogi prosiectau ffermio ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol/AHNEau gynt) Cymru sydd yn gwneud gwelliannau i natur a’r amgylchedd.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan ffermwyr a chyrff Tirweddau Dynodedig, sy’n gweithio gyda’i gilydd i:
- Ganolbwyntio ar weithgareddau cydweithredol sy’n rhychwantu ffermydd lluosog i gyflawni nod cyffredin
- Gyflawni prosiectau sy’n cefnogi adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau
- Helpu busnesau fferm i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn
- Greu cyfleoedd i bobl fwynhau’r Tirweddau a’u treftadaeth ddiwylliannol.
Bydd pob un o’r Tirweddau yn cyflogi ymgynghorwyr arbenigol a fydd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu ceisiadau ac yn cefnogi ymgeiswyr drwy’r broses.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol. Bydd yn cyllido gweithgareddau sydd yn cwmpasu nifer o ffermydd ac yn cael effaith ar raddfa tirwedd. Mae hyn yn golygu mwy na chlystyrau ffurfiol o ffermydd – bydd Ffermio Bro yn cyllido prosiectau sydd yn cyflawni nod drwy gamau a weithredir ar nifer o ffermydd – does dim rhaid bod gan y ffermwyr unrhyw gytundeb na’u bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda’i gilydd.
Cliciwch yma am fanylion ynglŷn â sut bydd Ffermio Bro yn gweithio
Cyflwyniad i’r Cynllun Ffermio Bro ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae tirweddau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arbennig ac unigryw, gan adlewyrchu eu daeareg, tirffurfiau, hanes anheddiad dynol, tir amaeth a’r fioamrywiaeth a’r bywyd gwyllt sydd hefyd yn eu siapio ac yn dibynnu arnynt. Mae angen iddyn nhw barhau i gael eu rheoli, eu gwella a’u gwarchod, yn bennaf trwy ffermio, gan hefyd gefnogi’r ffermwyr a’r cymunedau sy’n gweithio yma. Mae ein cynllun amaeth-amgylcheddol Ffermio Bro: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cyllid ychwanegol i ganiatáu i ffermwyr weithio mewn partneriaeth â’i gilydd, sefydliadau eraill, a ni i sicrhau canlyniadau gwell i natur a chymunedau. Gyda’n gilydd, ni sy’n gwybod orau y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein tirweddau a’n cymunedau, a esbonnir yng Nghynllun Rheoli’r Parc, “Dyfodol y Bannau.”
Rhaid i’ch fferm fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae hwn yn gynllun grant cyfalaf, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r holl waith gael ei gwblhau o fewn y flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 28 Chwefror), gan adael digon o amser i ni gwblhau’r gwaith gweinyddol cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth.
Mae’r cynllun wedi’i gyfyngu i dair blynedd (Ebrill 2025 i Fawrth 2028), gan helpu i lywio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd yn gweithio ochr yn ochr – nid mewn cystadleuaeth – â chynlluniau presennol.
Yr hyn y byddwn yn ei ariannu
Byddwn yn derbyn un grant fesul cyfeirnod cwsmer fferm fesul blwyddyn oni bai bod un neu fwy o ffermydd yn ymwneud â mwy nag un bartneriaeth sy’n cyflawni o dan Ffermio Bro.
Byddwn yn dyfarnu grantiau cyfalaf rhwng £1001.00 a £20,000.00. Bydd unrhyw geisiadau am grant o £15.000.00 neu fwy yn cael eu hasesu gan y Panel Asesu Lleol.
Byddwch yn cyflwyno Ffurflen Mynegi Diddordeb i ni i gychwyn trafodaethau rhyngoch chi / eich partneriaeth a ni ac yn dilyn hynny, os hoffech barhau, byddwch wedyn yn cyflwyno Ffurflen Gais lawn i ni.
Mae’r ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor o 16 Mawrth 2026.
Pa fath o weithgareddau fydd yn gymwys i gael cyllid?
Rydyn ni’n chwilio am brosiectau fferm sy’n cyd-fynd ag un neu fwy o’n themâu allweddol ar gyfer Blwyddyn 2 y cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys:
Prosiectau sydd wedi’u lleoli o fewn Dalgylch Afon Wysg a’i llednentydd
- Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- ymyriadau rheoli llifogydd naturiol (strwythurau prennaidd sy’n gollwng, pyllau dŵr, rheoli pridd a thir)
- gwella a chreu cynefinoedd glan afon
- mesurau wedi’u targedu i wella ansawdd dŵr, fel rheoli stoc
- plannu gwrychoedd neu goed gyda rhediad y tir/ar draws llethrau
Prosiectau tiroedd comin cofrestredig
- Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- rheoli rhedyn neu brysgwydd
- gwella cynefinoedd ucheldirol a mawndir
- gwaith ffiniau
- coleri da byw GPS
- creu rhwystrau tân
Adfer a chreu cynefinoedd
- Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- plannu coed ar ddwysedd isel (llethrau serth, ceunentydd a nentydd ucheldirol, corneli caeau a chreu coed pori)
- adfer coetir
- adfywio naturiol
- adfer a chreu gwrychoedd
- gwaredu Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)
- gwella a chreu gwlyptiroedd, pyllau dŵr, a phyllau dŵr tymhorol
- gwella a chreu cynefinoedd glan afon
- adfer gweirgloddiau traddodiadol
- creu gwyndynnydd llysieuol
- adfer ffiniau traddodiadol (waliau cerrig sych)
- Prosiectau sy’n canolbwyntio ar rywogaethau
- Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- mesurau wedi’u targedu i gefnogi adferiad rhywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd
- creu a sefydlu cynefin nythu a bwydo
Dim ond enghreifftiau yw’r rhain, nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Os nad ydych yn siŵr a yw eich syniad prosiect yn cyd-fynd â’r themâu uchod, cysylltwch â ni.
Ar gyfer tiroedd comin cofrestredig
Yn ogystal, os ydych chi’n gwneud cais ar ran cymdeithas cominwyr gofrestredig a chyfansoddedig ac yr hoffech archwilio opsiynau ar gyfer rheoli llwyth tanwydd i liniaru ac atal tân gwyllt sy’n gysylltiedig â llosgi bwriadol, byddem yn hapus i’ch helpu i ddatblygu syniadau mewn trafodaeth gyda’ch rhydd-ddeiliad.
Cydweithio
Rydyn ni am i 80% o’r prosiectau fod yn gydweithrediadau rhwng ffermydd a rheolwyr tir eraill. Mae sawl ffordd y gall prosiectau fod yn gydweithredol o dan y cynllun:
- Grwpiau o glystyrau fferm gan gynnwys grwpiau sefydledig, grwpiau a ffurfiwyd o dan Ffermio Bro, cymdeithasau pori, a phrosiectau tiroedd comin.
- Cydweithrediadau daearyddol rhwng ffermydd neu dir cyfagos a chysylltiedig. Gall hyn gynnwys ffermydd sydd wedi’u lleoli yn yr un dalgylch afon.
- Cydweithredu thematig i gynnwys ffermydd yn gweithio tuag at yr un nod ar draws y Parc Cenedlaethol.
Bydd gan bob ymgeisydd sy’n gwneud cais am y cynllun gais a dyraniad grant unigol, hyd yn oed os yw’r prosiect yn gydweithredol.
Os nad ydych yn siŵr a yw eich syniad prosiect yn gydweithredol, cysylltwch â ni am gyngor.
Cyfraddau talu
Rydym yn talu ar y gyfradd ymyrraeth safonol a bennir gan Taliadau Gwledig Cymru (Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig: manylebau technegol | LLYW.CYMRU).
Pan na ellir defnyddio’r fanyleb dechnegol, er enghraifft oherwydd ystyriaethau amgylcheddol sy’n benodol i’r tir ffermio dan sylw, byddwn yn cynnig hyd at 40% o werth grant y costau gwirioneddol.
Lle derbynnir cynnig lle nad oes cost safonol ar gael, byddwn yn cynnig hyd at 100% o’r costau lle mae budd amgylcheddol uniongyrchol y gellir ei brofi ac na fydd y ffermwr yn gwneud elw masnachol preifat a / neu nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchiant cynradd.
Byddwn yn ystyried cyfrannu tuag at brynu peiriannau cyfalaf lle y bo’n berthnasol a lle mae’r ymgeisydd / ymgeiswyr yn dangos y bydd y peiriannau / offer yn cael eu defnyddio am sawl blwyddyn wedyn, gan ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith prosiect sy’n cael ei gwblhau.
Pan fyddwch wedi derbyn neu ar fin derbyn cyllid o dan gynllun arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rhaid i chi roi sicrwydd ysgrifenedig i ni nad ydych neu na fyddwch yn derbyn cyllid ar gyfer yr un gwaith yr ydych yn gwneud cais amdano o dan Ffermio Bro.
Cysylltiadau allweddol a manylion cyswllt:
Swyddog Prosiect Ffermio Bro – Katie Parkinson
07929 858883
Beth yw eich syniadau? Byddem yn gwerthfawrogi clywed gennych: ff********@*************ov.uk
Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin ar y wefan Tirweddau Cymru Ffermio Bro.