Gwybodaeth i Breswylwyr

Materion Hygyrchedd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  Os ydych yn pryderu am faterion Hygyrchedd lleol neu Hawliau Tramwy cyhoeddus (llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau, ayb). Mae hygyrchedd yn allweddol ar gyfer mwynhau a deall y Parc Cenedlaethol a’r nod yw hyrwyddo mynediad cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd addas a chynaliadwy nad ydynt yn gwrthdaro â’n hegwyddorion cadwraeth.

Cymryd Rhan. Mae ein Cynllun Gwirfoddolwyr yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ymarferol a fydd o gymorth i ni wrth ofalu am dirlun gwarchodedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O bartïon gwaith gwirfoddolwyr wythnosol gyda’r Wardeiniaid a’r tîm Ecoleg, mae digonedd i’w wneud.

Llwybrau Haws sy’n Hygyrch i Bobl Anabl. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n galed i dynnu ymaith rwystrau diangen megis camfeydd ac i
osod gatiau hawdd i’w agor a’u cau yn lle, pan fo’n addas. Mae’r Awdurdod hefyd yn gwella wyneb rhai llwybrau, lle mae’r amgylchiadau a’r dirwedd yn caniatáu. Chwiliwch trwy ein llwybrau am lwybrau gradd addas.

Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol. Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn un o amodau Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae’n sefydlu gweledigaeth ar gyfer y Parc cyfan dros y blynyddoedd i ddod, sydd wedi cael ei hardystio gan ystod eang o ymgynghorwyr. Mae hefyd yn cynnwys nodau ac amcanion ar gyfer holl weithgareddau’r Parc Cenedlaethol, a’r camau sydd angen eu cymryd er mwyn gwireddu’r rheiny, boed hynny gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei hun neu gan sefydliadau partner.

Caniatâd Cynllunio. Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd, newidiadau sylweddol, ehangu adeiladau presennol, ac ar gyfer newid defnydd adeiladau a thir. Mae hyn er mwyn gwarchod a gwella ein hamgylchedd, i amddiffyn adeiladau pwysig ac ardaloedd naturiol ac i gryfhau’r economi lleol. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer POB estyniad a newid i dai preswyl.

Cynghreiriau Cefn GwladProsiect twristiaeth cynaliadwy yn y Bannau Brycheiniog.

Ymweld â’ch Bannau Brycheiniog chi! Gyda dros 520 milltir sgwâr i’w harchwilio, mae’n siŵr bod rhywle yn eich parc cenedlaethol nad ydych wedi ymweld ag ef eto. Gyda’r ardaloedd gwyllt, sy’n cyferbynnu â’r coetiroedd cysgodol hynafol, y cronfeydd dŵr, y rhaeadrau godidog, yr ogofeydd a’r ucheldiroedd gwyntog, mae rhywbeth at ddant pawb yma.