Yr hyn a wnawn

  • Annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rinweddau arbennig PCBB
  • Annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rinweddau arbennig Parciau Cenedlaethol Cymru a thirweddau sydd wedi’u hamddiffyn o fewn ac o gwmpas y Parc Cenedlaethol
  • Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach ynghylch dibenion, polisïau a gweithgareddau’r Parc Cenedlaethol – sef gwaith yr Awdurdod
  • Darparu profiad unigryw sy’n benodol i’r parc (awyr agored) nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall
  • Rhoi cyfle i ddysgwyr gael profiad yn ymwneud â dibenion y Parc Cenedlaethol wyneb yn wyneb, yn y parc, ar-lein neu drwy ddeunydd ysgrifenedig
  • Sicrhau iechyd a diogelwch pob dysgwr/cyfranogwr a chadw safon yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) fel safon ofynnol. Mae copi o’n Datganiad Rheoli Risg ar gael yma
  • Rhoi profiad pleserus o’r Parc Cenedlaethol i ddysgwyr
  • Creu cyfleoedd dysgu i bawb, gan gynnwys pobl nad ydynt wedi cael y fath gyfleoedd yn draddodiadol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Arddangos egwyddorion cynaliadwyedd drwy ddeunyddiau dysgu ac yn ymarferol, a thrwy gefnogi Eco-ysgolion a chyrraedd a chynnal statws Eco-ganolfannau o ran canolfannau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol
  • Gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid mewnol ac allanol i hyrwyddo a gweithredu’r defnydd diogel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer dysgu
  • Cyfleu i bawb sy’n cael profiad dysgu o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol eu bod yn y Parc Cenedlaethol
  • Cefnogi darpariaeth cyfleoedd dysgu yn ac o gwmpas y rhan honno o’r parc sydd wedi’i bennu’n Geoparc
  • Cwrdd ag anghenion darparwyr dysgu (ysgolion, colegau, canolfannau addysg awyr agored, sefydliadau cyhoeddus, addysgwyr cartref, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, oedolion sy’n dysgu) drwy ddatblygu a darparu gwasanaethau dysgu, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Galluogi addysgwyr i ddysgu sut i ddefnyddio’r Parc Cenedlaethol fel man ar gyfer dysgu (h.y. drwy ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd)
  • Ymgorffori yn y ddogfen hon ymdrechion addysgol cenedlaethol a rhyngwladol (Degawd UNESCO dros Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, Cwricwlwm Cymreig 2008/9) wrth iddynt godi